Marshall Claxton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Marshall Claxton
Ganwyd 12 Mai 1813 Edit this on Wikidata
Bolton Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Gorffennaf 1881 Edit this on Wikidata (68 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Lady Godiva Edit this on Wikidata
Arddull paenitiadau o bethau pob dydd, Portread Edit this on Wikidata
Plant Florence Claxton, Adelaide Sophia Claxton Edit this on Wikidata
Lady Godiva gan Marshall Claxton

Roedd Marshall Claxton (12 Mai 1811 - 28 Gorffennaf 1881) yn arlunydd Saesnig a oedd yn darlunio tirwedd, portreadau a pheintiadau testunol yn bennaf[1]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Claxton yn Bolton, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i weinidog Methodistiaid Wesleaidd, y Parch. Marshall Claxton, a'i wraig Diana.

Ym 1837 priododd Sophia (1812–1890), merch Joshua Hargrave YH o Blackheath, Swydd Caint; bu iddynt ddwy ferch a mab. Bu'r ddwy ferch Florence ac Adelaide yn artistiaid hefyd a chawsant eu harddangos yn yr Academi Frenhinol.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Astudiodd Marshall o dan John Jackson, R.A., ac yn ysgol yr Academi Frenhinol lle ymrestrodd ar 26 Ebrill 1831. Cafodd bendith ei dad i astudio o dan Jackson gan fod Jackson hefyd yn aelod brwd o'r Eglwys Fethodistaidd.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei ddarlun cyntaf ei arddangos yn yr Academi Frenhinol yn 1832 sef portread o'i dad. Yn y blynyddoedd dilynol dangoswyd tua 30 o'i luniau yn arddangosfeydd yr Academi. Yn 1834 enillodd y fedal gyntaf yn yr ysgol baentio, a chafodd fedal aur Cymdeithas y Celfyddydau yn 1835 am ei ddarlun o Syr Astley Cooper. O 1837 i 1842 bu'n gweithio yn yr Eidal cyn dychwelyd i Lundain, gan ennill gwobr o £ 100 am ei Alfred the Great in the Camp of the Danes. Roedd y wobr yn wobr gysur am "lun da" am ddarlun a fethodd i ddod i'r brig mewn cystadleuaeth i greu ffresgoau ar gyfer y senedd dai newydd yn San Steffan.

Ym 1850 aeth Claxton i Sydney, Awstralia, gyda chasgliad mawr o luniau, ond ni chafodd fawr o lwyddiant wrth eu gwerthu. Tra yn Sydney paentiodd ddarlun mawr ar destun Beiblaidd, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf Fi a gomisiynwyd gan y Farwnes Burdett-Coutts. Disgrifiwyd y llyn yn y cylchgrawn Household Words fel 'y darlun pwysig cyntaf' a baentiwyd yn Awstralia.[2]

Ym mis Medi 1854 fe adawodd Claxton Sydney am Kolkata, lle bu'n gwerthu nifer o'i luniau. Dychwelodd i Loegr yn 1858 trwy'r Aifft.

Mae llun Claxton "Golygfa Gyffredinol o Harbwr a Dinas Sydney" yn y casgliad Brenhinol yn Lloegr, ac mae ganddo ddau lun yn y casgliad Dickinson yn Oriel Gelf New South Wales, Sydney. Mae ei bortreadau o'r Esgob William Broughton a Dean Cowper yng Ngholeg St. Paul, Prifysgol Sydney, ac mae ei bortread o'r Parch Robert Forrest yn cael ei arddangos yn Ysgol y Brenin, Parramatta. Mae ei beintiad o'r Arglwyddes Godiva yn Oriel Gelf Herbert ac mae hefyd wedi arddangos gwaith yn Oriel Gelf Derby ac Amgueddfa Victoria ac Albert. [3] Bu ei dirlun The Anglesey Coast yng ngasgliad yr artist â chysylltiadau a Chonwy, Buckley Ousey, ar un adeg.[4]

Roedd yn adnabyddus hefyd am ei luniau perthnasol i'r achos Wesleaidd, megis ei ddarlun testunol ar John Wesley at Oxford a The Holy Triumph of John Wesley in His Dying[5]. Daeth nifer o'r darluniau Wesleaidd yn boblogaidd ym mysg selogion yr enwad fel printiau.[6]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Llundain ar ôl salwch hir ar 28 Gorffennaf 1881.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]