Mark Taubert

Oddi ar Wicipedia
Mark Taubert
GanwydHessen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Baner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethymchwilydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Velindre NHS Trust
  • Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTEDx talk Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://profiles.cardiff.ac.uk/honorary/taubertm Edit this on Wikidata

Mae’r Athro Mark Taubert, FRCP FRCGP FLSW, sydd â gwreiddiau yng Nghymru a’r Almaen yn ddoctor ymgynghorol ac athro meddyginiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.[1][2] Mae ei waith fel meddyg gofal lliniarol yng Nghymru, yn ôl y Western Mail [3] a gwefan Llywodraeth Cymru[4] wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu maes ei arbenigedd, a’i fod wedi ennill cydnabyddiaeth fel doctor ac ymgyrchydd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Wedi sgwrs â chlaf ar ei wely angau, cafodd ei ysgogi i ysgrifennu at y diweddar David Bowie ym mis Ionawr 2016,[5] a’r llythyr yn denu cryn sylw ledled y byd.[6][7][8][9] Ar ben hynny, cafodd y llythyr ei drosi i’r Gymraeg (gweler y Dolenni Allanol).

Fe yw sylfaenydd Talk CPR, ymgyrch rhyngwladol i hyrwyddo gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch penderfyniadau i beidio â dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd, pwnc a all fod yn destun dadl. Mae hefyd yn gadeirydd cenedlaethol ar y Grŵp Gofal Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol o Weithrediaeth GIG Cymru.

Gwaith cyfryngau[golygu | golygu cod]

Mae wedi cyhoeddi sawl erthygl ar ofal lliniarol mewn cylchgronau rhyngwladol, megis y Washington Post [10] a'r Guardian.[11][12] Fe yw sylfaenydd Talk CPR[13][14], ymgyrch rhyngwladol i hyrwyddo gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch penderfyniadau i beidio â dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd (fe’i adnabyddir hefyd fel DNACPR), pwnc a all fod yn destun dadl. Ymwelwyd â’i adnoddau esboniadol Talk CPR dros filiwn o weithiau ar draws y byd, [15] ac mae wedi cael ei gyfweld a thrafod y pwnc gan BBC News at Six a BBC News at 10.

Cyflwynodd Taubert drafodaeth TEDx ar ddefnydd iaith mewn gofal lliniarol.[16] Ar ben hynny, fe gafodd ei gynnwys ar ddau recordiad ar thema ofal lliniarol ar gyfer Listening Project BBC y DU yn 2019 [17] a 2020 [18] a hefyd ar raglen BBC HorizonWe need to talk about Death’ gyda Kevin Fong.[19]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Mae Taubert wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am ei waith addysgu a chlinigol, yn cynnwys gwobr Bafta am fod yn rhan o dîm gofal mewn rhaglen ddogfennol gan ITV.[20] Dyfarnwyd gwobr genedlaethol clodfawr iddo sef Addysgwr Clinigol BMJ/BMA y flwyddyn [21][22], Gwobr Hyfforddwr Gorau Cymru 2016 [23] a Gwobr Coleg Brenhinol y Meddygon am Ragoriaeth mewn Gofal Cleifion.[24]

Llythyr agored i David Bowie[golygu | golygu cod]

Yn 2016, cyhoeddodd lythyr i ddiolch i David Bowie ar ôl marwolaeth y cantor, gan gyfeirio at albwm olaf Bowie, Blackstar. [25][26] Yn gyntaf, cyhoeddwyd y llythyr yn y British Medical Journal [27][28] ac yna'r Independent Newspaper [29] ac yna ei rannu gan fab David Bowie, Duncan Jones.[30] Fe ddenodd ddiddordeb mawr ar-lein ac yn ystafelloedd newyddion y byd.[31][32][33] Yn sgil y sylw hyn, cafodd ei ddarllen yn gyhoeddus mewn digwyddiadau gan enwogion megis yr actor Benedict Cumberbatch[34] a'r cantor Jarvis Cocker [35] mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mae’r llythyr yn mynd i’r afael â gofal lliniarol a chynllunio ar gyfer gofal diwedd oes. Daeth hanes Bowie yn ffordd o godi agweddau pwysig ar farw gyda chlaf gofal lliniarol. [36][37]

Fe’i gyfansoddwyd yn ddarn pedwarawd tant cerddoriaeth glasurol i BBC Radio 3, gan gynnwys Taubert yn darllen y llythyr.[38] [36] Aeth wedyn ar daith, yn lansio yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Gogledd Lloegr[39] ac Ysgol Gerdd Frenhinol yr Alban. Yn ôl yr Herald Newspaper Scotland ‘i gefndir cerddorol, darllenwyd llythyr agored i Davie Bowie gan y meddyg gofal lliniarol Mark Taubert, a ddathlwyd yn rhan o nodi marwolaeth y seren roc, ac fe’i berfformiwyd yma er cof am bedair mlynedd ers iddo farw’.[40]

Yn ogystal â hyn, argraffwyd y llythyr mewn sawl llyfr, gan gynnwys ‘David Bowie – A Life’ [41] gan Dylan Jones a ‘Letters of Note – Music’ [42] ggan Shaun Usher, fel rhan o’r digwyddiad brand ‘Letters Live’, lle y darllenwyd y llythyr yn uchel ddwywaith.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Prof. Mark Taubert Cardiff University School of Medicine Staff Profile". Cardiff University School of Medicine Staff Profile Page. 2020. Cyrchwyd 2022-01-05.
  2. Taubert, Mark (2020-05-31). "Coronavirus: Helping the bereaved with emotional PPE". BBC News. Cyrchwyd 2022-01-13.
  3. Smith, Mark (8 Hydref 2018). "'I felt as if I had come to my homeland'- the doctors from overseas who are vital to Wales' National Health Service". Western Mail. t. 28.
  4. Government, Wales (9 Mawrth 2023). "Dr Mark Taubert" (yn Saesneg).
  5. Taubert, Mark (29 Ionawr 2016). "Llythyr o ddiolch i David Bowie oddi wrth feddyg gofal lliniarol". BMJ Supportive & Palliative Care. https://blogs.bmj.com/spcare/2016/01/29/llythyr-o-ddiolch-i-david-bowie/.
  6. Vincent, Alice (18 IOnawr 2016). "'Thank you for Blackstar': Palliative care doctor writes open letter to David Bowie". The Telegraph Newspaper (yn Saesneg). Check date values in: |date= (help)
  7. Leopold, Todd (2016-01-08). "David Bowie's son shares powerful letter". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
  8. "Bowie's son shares thank you from palliative care doctor". New Zealand Herald. 18 Ionawr 2016.
  9. "Duncan Jones, il figlio di Bowie, rompe il silenzio con una toccante lettera". Rolling Stone Magazine Italy. 18 Ionawr 2016.
  10. Taubert, Mark (11 Ionawr 2019). "What's the last song you want to hear before you die?". The Washington Post.
  11. Taubert, Mark (3 Chwefror 2016). "This is not Casualty- In real life, CPR is brutal and usually fails". The Guardian Newspaper.
  12. Taubert, Mark (19 June 2023). "I thought I should always be positive with my patients – until I found out how damaging that can be". The Guardian Newspaper.
  13. Taubert, Mark; Norris, James; Edwards, Sioned; Snow, Veronica; Finlay, Ilora Gillian (December 2018). "Talk CPR - a technology project to improve communication in do not attempt cardiopulmonary resuscitation decisions in palliative illness". BMC Palliative Care 17 (1): 118. doi:10.1186/s12904-018-0370-9. PMC 6195698. PMID 30340632. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6195698.
  14. "Creating a sustainable, prudent & vibrant NHS- The TalkCPR project". Western Mail. 2016-12-05. tt. 57–58. Cyrchwyd 2022-01-13.
  15. Hughes, Mary (2022-10-02). "Palliative care in the 'Kingdom in the sky': Lesotho". European Association for Palliative Care. Cyrchwyd 2022-01-05.
  16. "Why Language Matters When You Know You Are Dying". TEDx. 18 June 2017. Cyrchwyd 4 Ionawr 2023.
  17. Glover, Fi (2019-11-08). "The Listening Project- Mark and Faye, Trainer and Trainee". BBC Radio 4 - The Listening Project. BBC. Cyrchwyd 2022-01-05.
  18. Glover, Fi (2020-03-08). "BBC Radio 4 Listening Project- Sunday Edition: Mark and Darren - Strangers in conversation". BBC Radio 4. Cyrchwyd 2022-01-04.
  19. Hogan, Michael (23 Ionawr 2019). "Horizon: We need to talk about Death Review: Would better palliative care help us to die happier?". Telegraph Newspaper.
  20. "ITV - Velindre, Hospital of Hope". 2018-04-11.
  21. "Leading Clinical teachers awarded for their work". Western Mail. 2017-04-10. t. 28. Cyrchwyd 2022-01-13.
  22. "Velindre Doctor Wins Clinical Teaching Award". Glamorgan Gem. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-28. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
  23. Smith, Mark (2017-04-10). "Awards recognise our talented clinical teachers". Echo Newspaper. t. 25. Cyrchwyd 2022-01-13.
  24. "The last thing you want to talk about? CPR in palliative illness - EPCA Awards 2019". Royal College of Physicians. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
  25. "Un ejemplo para los cuidados paliativos". El Mundo Newspaper. Ionawr 2016. Cyrchwyd 2022-01-05.
  26. Best, Chloe (2016). "David Bowie's son returns to Twitter to share moving thank you letter from doctor". Hello Magazine. Cyrchwyd 2022-01-20.
  27. Taubert, Mark (2016). "Thank You Letter to David Bowie from a Palliative Care Doctor". BMJ Supportive & Palliative Care 6 (4): 500–501. doi:10.1136/bmjspcare-2016-001242. PMID 27760747. https://spcare.bmj.com/content/6/4/500.
  28. McDermott, Maeve (19 Ionawr 2016). "David Bowie's son reveals poignant letter from doctor". USA Today.
  29. Taubert, Mark (22 Ionawr 2016). "David Bowie: NHS care doctor publishes tribute to the Starman". Independent Newspaper.
  30. Powell, Emma (18 Ionawr 2016). "David Bowie's son breaks silence to post touching letter from doctor to his late father". Evening Standard.
  31. "David Bowie helped lift taboo on death". BBC News. 2016. Cyrchwyd 2022-01-05.
  32. Andrea, Park (18 Ionawr 2016). "Duncan Jones shares doctor's letter to David Bowie". CBS News.
  33. "David Bowie's son returns to Twitter". Times of India. 17 Ionawr 2016.
  34. "Benedict Cumberbatch read out a Welsh doctor's letter about dying". WalesOnline. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
  35. "Watch Jarvis Cocker read a letter to David Bowie about end-of-life-care". Telegraph. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
  36. 36.0 36.1 Rogers, Jude (2020-01-22). "Cremate me to the sound of Disco Inferno". The Guardian. Cyrchwyd 2022-04-01.
  37. Vincent, Alice (2016-01-18). ""Thank you for Blackstar"- Palliative Care doctor writes open letter to Bowie". The Telegraph. Cyrchwyd 2022-01-22.
  38. Uren, John (11 April 2017). "BBC Radio 3' Hear & Now- Kammerklang: John Uren's 'Her Own Dying Moments' - a thank you letter to David Bowie from palliative care doctor Mark Taubert".
  39. "Decontamination #7 – Boulez/Bowie". Royal Northern College of Music Concerts. 2016-11-01.
  40. Bruce, Keith (12 Ionawr 2020). "Music: Aurea Quartet at the Royal Conservatoire of Scotland, Glasgow". The Herald Scotland Newspaper.
  41. Jones, Dylan (2017). David Bowie - A Life. Crown Archetype. tt. 498–501. ISBN 978-0451497833.
  42. Usher, Shaun (2020). Letters of Note Music. Canongate. tt. 18–25. ISBN 9781786895592.