Mario Benedetti
| Mario Benedetti | |
|---|---|
| Ffugenw | Damocles, Mario Benedetti, Orlando Fino, Zampano |
| Ganwyd | Mario Orlando Hardy Hamlet Brenno Benedetti Farrugia 14 Medi 1920 Paso de los Toros |
| Bu farw | 17 Mai 2009 o asthma Montevideo |
| Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, bardd, dramodydd, gwleidydd, nofelydd, awdur storiau byrion, cyfieithydd |
| Adnabyddus am | La tregua |
| Arddull | theatre, traethawd |
| Plaid Wleidyddol | Broad Front |
| Mudiad | La Generación del 45 |
| Gwobr/au | Urdd Francisco de Miranda, doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Alicante, doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Valladolid, Gwobr Ryngwladol Menéndez Pelayo, Morosoli Award, honorary doctor of the University of Havana, Gwobr Reina Sofía |
Bardd, nofelydd, llenor straeon byrion, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Mario Benedetti (14 Medi 1920 – 17 Mai 2009). Cyhoeddodd mwy na 80 o lyfrau yn ystod ei oes.[1]
Ganwyd yn Paso de los Toros, Tacuarembó, i fewnfudwyr Eidalaidd. Symudodd y teulu i'r brifddinas Montevideo pan oedd Mario yn 4 oed, ac yno mynychodd ysgol breifat.[2]
Bu'n byw yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod cyn iddo ddychwelyd ym Montevideo yn nechrau'r 1940au. Yn 1945 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, La víspera indeleble, ac ymunodd â'r cylchgrawn adain-chwith Marcha. Benedetti oedd un o sefydlwyr Frente Amplio, mudiad adain-chwith cyffredin yn Wrwgwái.[1] Priododd Luz López Alegre yn 1946, a buont yn briod nes ei marwolaeth hi o glefyd Alzheimer yn 2006.[3] Mae ei gyfrolau eraill o farddoniaeth yn cynnwys Poemas de la oficina (1956). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Montevideanos (1959), ac ymhlith ei nofelau mae La tregua (1960) ac El cumpleaños de Juan Angel (1971).
Wedi i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym yn 1973, bu'n rhaid i Benedetti adael Wrwgwái, ac aeth yn alltud yn yr Ariannin. Yno cafodd ei fygwth gan un o grwpiau parafilwrol yr adain dde, ac aeth i Beriw am chwe mis nes iddo gael ei allgludo. O'r diwedd, ymsefydlodd yng Nghiwba, a gweithiodd i'r cwmni cyhoeddi Casa de las Américas. Ysgrifennodd am ei brofiadau'n alltud yn y gyfrol El desexilio y otras conjeturas (1984).
Dychwelodd i Montevideo yn 1983, a bu'n teithio i Fadrid a Mallorca am gyfnodau hirion.[1] Bu farw ym Montevideo yn 88 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 (Saesneg) Nick Caistor, "Obituary: Mario Bendetti", The Guardian (20 Mai 2009). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) Mario Benedetti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) "Mario Benedetti: Writer in the vanguard of South America's literary boom in the second half of the 20th century Archifwyd 2019-04-26 yn y Peiriant Wayback", The Independent (12 Mehefin 2009). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
- Beirdd yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Beirdd yr 21ain ganrif o Wrwgwái
- Beirdd Sbaeneg o Wrwgwái
- Genedigaethau 1920
- Llenorion straeon byrion Sbaeneg o Wrwgwái
- Marwolaethau 2009
- Newyddiadurwyr o Wrwgwái
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Nofelwyr yr 21ain ganrif o Wrwgwái
- Nofelwyr Sbaeneg o Wrwgwái
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Sbaeneg o Wrwgwái