Margaret Gordon
Margaret Gordon | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1880 Ceinewydd |
Bu farw | 23 Medi 1962 Savernake |
Dinasyddiaeth | Cymru Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr |
Math o lais | mezzo-soprano |
Roedd Y Fonesig Margaret Jane Gordon (née Thomas) (3 Mawrth 1880 – 23 Medi 1962) yn gantores mezzo-soprano a chymwynaswraig Cymreig a wariodd y rhan fwyaf o'i hoes yn Awstralia.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Thomas yng Ngheinewydd, Ceredigion yn blentyn i Thomas Thomas, meistr llongau ac Ann ei wraig. Cafodd ei addysgu yn breifat gan astudio canu o dan Madam Clara Novello yng Nghaerdydd ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain.
Gyrfa gerddorol
[golygu | golygu cod]Gwnaeth ei ymddangosiad llwyfan proffesiynol cyntaf yn Llundain ym 1904 ac yna chafodd ei chyflogi i wneud taith i Awstralia gyda'r Parkina-Földesy Concert Company rhwng Chwefror a Mawrth 1905. Ar ddiwedd y daith ymunodd Thomas a'r Williamson's Royal Comic Opera Company i chware rhan Nanoya yn sioe gerdd James T. Tanner The Cingalee. Agorodd y sioe yn Sydney ar 6 Mai cyn teithio i Perth ac Adelaide. Ym mis Medi bu'n chware ran Hélène de Solanger yn opereta André Messager, Véronique. Dychwelodd i Sydney gyda'r cwmni ym mis Rhagfyr 1905.
Teulu
[golygu | golygu cod]Wrth berfformio yn Sydney daeth i sylw bargyfreithiwr amlwg, Syr Alexander Gordon, a oedd wedi gwirioni efo hi. Bu'n danfon pwysiau mawr o flodau yn ddienw iddi ar ddiwedd bob cyngerdd nos Sadwrn. Wedi cael cyfle i gyfarfod ei arwres gofynnodd iddi ei briodi. Dychwelodd y cwpl i Geinewydd i briodi yng Nghapel y Tabernacl ym mis medi 1906 [2] Bu iddynt dau blentyn. Wedi'r briodas dychwelodd y cwpl i Sydney a rhoddodd Margaret y gorau i'w gyrfa fel cantores broffesiynol.
Gwaith dyngarol
[golygu | golygu cod]Dychwelodd Margaret i'r llwyfan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwy codi arian i elusennau milwrol a'r groes goch. Cynhaliodd cyngerdd ar y cyd a'r gantores Antonia Dolores yn Neuadd y Dref Sydney gan godi dros £1,000, cyfraniad Margaret i'r cyngerdd oedd canu nifer o ganeuon Cymraeg.
Rhwng y ddau ryfel byd parhaodd Margaret i gefnogi achosion da yn arbennig ar gyfer ysbytai, Ambiwlans Sant Ioan ac elusennau plant. Wedi dod yn hollol fyddar bu'n rhaid iddi roi'r gorau i ganu a pherfformio ei hun ond parhaodd i drefnu cyngherddau a sioeau theatr. Roedd yn noddwr i Gerddorfa Symffoni Sydney [3] a threfnodd cyngerdd ym 1936 i roi hwb i yrfa'r gantores ifanc Joan Hammond. Aeth Hammond ymlaen i fod yn un o gantoresau opera amlycaf y 1940au a'r 1950au. Roedd Margaret hefyd yn aelod ac yn gefnogwr brwd i holl gymdeithasau Cymreig a Chymraeg Sydney.
Fel is lywydd Croes Coch Awstralia bu'n brysur yn codi arian i'r achos eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[4]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Syr Alexander Gordon ym 1942 ac roedd ei merch wedi priodi gŵr o Loegr. Ar ddiwedd y rhyfel dychwelodd Margaret i wledydd Prydain i fyw gyda'i ferch. Bu farw yng nghartref ei ferch yn Savernake ger Marlbourough, Wiltshire, yn 82 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Martha Rutledge, 'Gordon, Margaret Jane (1880–1962)', Australian Dictionary of Biography adalwyd 15 Chwefror 2019
- ↑ "Local Weddings - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1906-10-04. Cyrchwyd 2019-02-15.
- ↑ Jane Hunt: The Sydney Symphony Orchestra and the 'three musketeers'. -Beatrice Swinson, Ruth Fairfax and Lady Margaret Gordon who succeeded in making orchestral music fashionable in Sydney Melbourne Historical Journal, v.25, 1997, p.17-34 (ISSN: 0076-6232)
- ↑ "RED CROSS ACTIVITIES". The Cumberland Argus And Fruitgrowers Advocate (3689). New South Wales, Australia. 25 August 1943. t. 6. Cyrchwyd 15 Chwefror 2019 – drwy National Library of Australia.