Clara Novello Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clara Novello Davies
ClaraNovelloDavies.tiff
Ganwyd 7 Ebrill 1861 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata (81 oed)
Gwaith Arweinydd, canwr, cyfarwyddwr côr edit this on wikidata
Plant Ivor Novello Edit this on Wikidata

Cantores Gymreig oedd Clara Novello Davies, a aned yn Nhreganna, Caerdydd (7 Ebrill 18611 Mawrth 1943). Roedd hi'n fam i'r actor a'r cyfansoddwr Ivor Novello a'r pianydd Marie Novello. Ffurfiodd gôr merched a deithiodd y byd, dysgodd lawer o gantorion a ddaeth yn safonol a sgwennodd hunangofiant yn 1940: The Life I have loved .

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed i Jacob Davies a'i wraig Margaret, yn Nhreganna. Fe'i henwyd ar ôl y gantores enwog Clara Anastasia, merch Vincent Novello. Derbyniodd wersi cerdd gan ei thad a gan Dr. Frost, Frederick Atkins, Caerdydd, a Dr. Charles Williams, organydd Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yn ferch ifanc, penodwyd hi'n gyfeilyddes Côr Undebol Caerdydd a'r Côr Rhuban Glas, a oedd yn cael ei arwain gan ei thad. Bu Côr Rhuban Glas yn hynod o lwyddiannus yng nghystadleuthau'r Palas Grisial.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]