Margaret Gordon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Margaret Gordon
Margaret Thomas.jpg
Margaret Thomas tua 1907
Ganwyd 3 Mawrth 1880 Edit this on Wikidata
Ceinewydd Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Medi 1962 Edit this on Wikidata (82 oed)
Savernake Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Canwr Edit this on Wikidata
Math o lais mezzo-soprano Edit this on Wikidata

Roedd Y Fonesig Margaret Jane Gordon (née Thomas) (3 Mawrth, 1880 - 23 Medi, 1962) yn gantores mezzo-soprano a chymwynaswraig Cymreig a wariodd y rhan fwyaf o'i hoes yn Awstralia.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Thomas yng Ngheinewydd, Ceredigion yn blentyn i Thomas Thomas, meistr llongau ac Ann ei wraig. Cafodd ei addysgu yn breifat gan astudio canu o dan Madam Clara Novello yng Nghaerdydd ac yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol, Llundain.

Gyrfa gerddorol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaeth ei ymddangosiad llwyfan proffesiynol cyntaf yn Llundain ym 1904 ac yna chafodd ei chyflogi i wneud taith i Awstralia gyda'r Parkina-Földesy Concert Company rhwng Chwefror a Mawrth 1905. Ar ddiwedd y daith ymunodd Thomas a'r Williamson's Royal Comic Opera Company i chware rhan Nanoya yn sioe gerdd James T. Tanner The Cingalee. Agorodd y sioe yn Sydney ar 6 Mai cyn teithio i Perth ac Adelaide. Ym mis Medi bu'n chware ran Hélène de Solanger yn opereta André Messager, Véronique. Dychwelodd i Sydney gyda'r cwmni ym mis Rhagfyr 1905.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth berfformio yn Sydney daeth i sylw bargyfreithiwr amlwg, Syr Alexander Gordon, a oedd wedi gwirioni efo hi. Bu'n danfon pwysiau mawr o flodau yn ddienw iddi ar ddiwedd bob cyngerdd nos Sadwrn. Wedi cael cyfle i gyfarfod ei arwres gofynnodd iddi ei briodi. Dychwelodd y cwpl i Geinewydd i briodi yng Nghapel y Tabernacl ym mis medi 1906 [2] Bu iddynt dau blentyn. Wedi'r briodas dychwelodd y cwpl i Sydney a rhoddodd Margaret y gorau i'w gyrfa fel cantores broffesiynol.

Gwaith dyngarol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd Margaret i'r llwyfan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwy codi arian i elusennau milwrol a'r groes goch. Cynhaliodd cyngerdd ar y cyd a'r gantores Antonia Dolores yn Neuadd y Dref Sydney gan godi dros £1,000, cyfraniad Margaret i'r cyngerdd oedd canu nifer o ganeuon Cymraeg.

Rhwng y ddau ryfel byd parhaodd Margaret i gefnogi achosion da yn arbennig ar gyfer ysbytai, Ambiwlans Sant Ioan ac elusennau plant. Wedi dod yn hollol fyddar bu'n rhaid iddi roi'r gorau i ganu a pherfformio ei hun ond parhaodd i drefnu cyngherddau a sioeau theatr. Roedd yn noddwr i Gerddorfa Symffoni Sydney [3] a threfnodd cyngerdd ym 1936 i roi hwb i yrfa'r gantores ifanc Joan Hammond. Aeth Hammond ymlaen i fod yn un o gantoresau opera amlycaf y 1940au a'r 1950au. Roedd Margaret hefyd yn aelod ac yn gefnogwr brwd i holl gymdeithasau Cymreig a Chymraeg Sydney.

Fel is lywydd Croes Coch Awstralia bu'n brysur yn codi arian i'r achos eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[4]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Syr Alexander Gordon ym 1942 ac roedd ei merch wedi priodi gŵr o Loegr. Ar ddiwedd y rhyfel dychwelodd Margaret i wledydd Prydain i fyw gyda'i ferch. Bu farw yng nghartref ei ferch yn Savernake ger Marlbourough Swydd Wiltshire yn 82 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Martha Rutledge, 'Gordon, Margaret Jane (1880–1962)', Australian Dictionary of Biography adalwyd 15 Chwefror 2019
  2. "Local Weddings - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1906-10-04. Cyrchwyd 2019-02-15.
  3. Jane Hunt: The Sydney Symphony Orchestra and the 'three musketeers'. -Beatrice Swinson, Ruth Fairfax and Lady Margaret Gordon who succeeded in making orchestral music fashionable in Sydney Melbourne Historical Journal, v.25, 1997, p.17-34 (ISSN: 0076-6232)
  4. "RED CROSS ACTIVITIES". The Cumberland Argus And Fruitgrowers Advocate (New South Wales, Australia) (3689): p. 6. 25 August 1943. http://nla.gov.au/nla.news-article106130618. Adalwyd 15 Chwefror 2019.