Marceseg
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Marquesic |
Rhan o | Ieithoedd rhanbarthol Ffrainc, Polynesia Ffrengig |
Yn cynnwys | Marceseg y Gogledd, Marceseg y De |
Nifer y siaradwyr | |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Casgliad o dafodieithoedd Polynesaidd Canolog-Ddwyreiniol yw Marceseg (Marceseg, ‘Te Eo ‘Enana (Marceseg y Gogledd) a Te ‘Eo ‘Enata (Marceseg y De[1]) a siaredir yn Ynysoedd Marquesas sy'n rhan o Polynesia Ffrengig. Maen nhw'n perthyn i'r ieithoedd Marcesaidd, grŵp ehangach sy'n cynnwys Hawaieg. Fe'u dosberthir fel arfer yn ddau grŵp, Marceseg y Gogledd a Marceseg y De, yn fras ar hyd llinellau daearyddol.[2] Mae niferoedd y siaradwyr yn isel iawn; oddeutu 5,700 yn siarad gwahanol dafodieithoedd Marceseg y Gogledd[3] ac ond oddeutu 2,700 o siaradwyr tafodiaith Marceseg y De.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn ôl damcaniaethau ail-greu hanesyddol mae Marceseg y Gogledd a Marceseg y De yn rhannu nifer o arloesiadau ffonolegol sy'n digwydd yn y 10g OC sy'n eu gwahaniaethu fel is-grŵp annibynnol o Proto-Tahitic (hynny yw, Tahitïeg, Tuamotuan, Rarotongeg (iaith Ynys y Pasg) a Maori). Yr ieithoedd Polynesaidd Dwyreiniol sy'n perthyn agosaf i Marceseg y Gogledd a'r De yw Hawaieg a Mangarefeg (Mangarevan) sy'n ffurfio'r is-grŵp Proto-Marceseg.[1]
Er meddiannu'r ynysoedd gan Ffrainc yn 19g mae dylanwad y Ffrangeg i'w weld ar yr iaith.
Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Nodwedd fwyaf trawiadol yr ieithoedd Marceseg yw eu bod yn disodli'r /r/ neu /l/ a geir mewn ieithoedd Polynesaidd eraill gan /ʔ/ (ataliad glotal) bron bob tro.[5]
Fel ieithoedd Polynesaidd eraill, nodweddir seinyddiaeth ieithoedd Marceseg gan brinder cytseiniaid a thoreth o lafariaid.
Marceseg Gog. | Marceseg De. | |
---|---|---|
haka | fana | "bae" |
haʻe | faʻe | "tŷ" |
koe | ʻoe | "ti" (unigol) |
Ua Huka | Ua Huna | (enw ynys) |
Yr Wyddor
[golygu | golygu cod]- A E F H I K M N O P R S T U V ʻ
- a e f h i k m n o p r s t u v ʻ [6]
Amrywiaeth tafodieithol
[golygu | golygu cod]Siaredir Marceseg y Gogledd yn yr ynysoedd gogleddol (Nuku Hiva, Ua Pou, a Ua Huka ), a Marceseg y De yn ynysoedd y de (Hiva Oa, Tahuata, a Fatu Hiva). Yn Ua Huka, a gafodd ei ddiboblogi bron yn gyfan gwbl yn y 19g ac a ailboblogwyd gyda phobl o'r Gogledd a'r De, mae'r iaith yn rhannu nodweddion Marceseg y Gogledd a Marceseg y De. Ceir data cymharol ar dafodieithoedd amrywiol yn y Linguistic Atlas of French Polynesia (Charpentier & François 2015).[5]
Y gwahaniaethau mwyaf amlwg rhwng y mathau yw bod gan Marceseg y Gogledd /k/ mewn rhai geiriau lle mae gan Marceseg y De /n/ neu /ʔ/ (ataliad glotal), a /h/ ym mhob gair lle mae gan Marceseg y De /f/.
Cyd-destun
[golygu | golygu cod]Mae Marceseg yn amlwg yn gwahaniaethu oddi wrth Tahitïeg (50% cyd-ddealltwriaeth, geirfa debyg rhwng 45 a 67%) neu Paumotu (29%).
Mae gan Marceseg berthynas agos ag ieithoedd Polynesaidd dwyrain Polynesia, gan gynnwys iaith Maori Ynysoedd Cook, Maori yn Seland Newydd, iaith Rapa Nui, ac yn fwy arbennig yr Hawaieg, a dywedir bod ffurf gynnar ar y Farceseg wedi esgor ar yr Hawaieg.
Statws
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Academi Marceseg gan Gynulliad Polynesia Ffrengig (y senedd) yn sgil pasio deddf 2000-19 APF, 27 Ionawr 2000. Ei enw yw "Tuhuna 'Eo Enata" yn Marceseg a'r "Académie marquisienne" yn Ffrangeg. Ei chenhadaeth yn benodol yw diogelu a chyfoethogi'r iaith Farceseg.
Mae'r iaith o dan fygythiad. Mae nifer bychan y siaradwyr yn her a'r gwahaniaethau rhwng y ddau brif dafodiaith yn amharu ar undod y gymuned ieithyddol. Ond nodir hefyd ers yr 1980au gellir arsylwi ar lefelu tafodiaith (hynny yw, cyd-ddealltwriaeth a rhannu geirfa neu lleihau gwahaniaethau) yn barhaus. Mae benthyg geiriau brodorol o'r naill dafodiaieth i'r llall wedi creu llawer o eiriau cytras gyda dwy ffurf neu fwy weithiau (er enghraifft ko'aka - 'o'aka - ko'ana "canfod"; maha'e - ma'a'e - tuha'e " anghofio”).[1]
Sillafu
[golygu | golygu cod]Mae Academi'r Marceseg wedi penderfynu disodli'r collnod sy'n nodi'r ataliad glotaidd ag acen ddisgynedig ar y llafariad sy'n dilyn (gydag eithriadau).[7] Mae hin yn groes i'r defnydd eang ond ansicr weithiau o'r defnydd o'r ocina, sy'n edrych fel atalnod ac yn cael ei ddefnyddio i ddangos yr ataliad glotal (IPA: /ʔ/) yn ieithoedd eraill y cefnfor tawel, er enghraifft, y gair Hawai'i sy'n dangos yr ataliad rhwng y ddwy /i/.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Marquesan languages: ‘Eo ‘Enana and ‘Eo ‘Enata gwefan DOBES
- South Marquesian ar wefan Omniglot
- Marquesan Language ar sianel Youtube LangShack (2024)
- Te huaahaè ffilm cartŵn fer yn cyflwyno'r iaith ar sianel Youtube Te Èo Ènana (2016)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Marquesian Language". DOBES Documentation of Endangered Languages. Cyrchwyd 3 Medi 2024.
- ↑ See Charpentier & François (2015).
- ↑ "North Marquesian". Omniglot. Cyrchwyd 3 Medi 2024.
- ↑ "South Marquesian". Omniglot. Cyrchwyd 3 Medi 2024.
- ↑ 5.0 5.1 For regular sound correspondences between Marquesan dialects and other Polynesian languages, see Charpentier & François (2015), p.93.
- ↑ Marquesan Pronunciation Guide
- ↑ "Te patuhei a te Haè tuhuka èo ènana - Graphie de l'Académie marquisienne". academiemarquisienne.com. 2020-10-10. Cyrchwyd 2021-09-29..