Mamal morol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ursus maritimus 4 1996-08-04.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmamal Edit this on Wikidata
Mathmamal dyfrol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmamal tir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Morlo'n chwarae gyda deifar, ar arfordir Ynys Sgomer
Morfil Cefngrwm (Lladin: Megaptera novaeangliae)

Mae mamaliaid morol yn famaliaid dyfrol sy'n dibynnu ar y cefnfor ac ecosystemau morol eraill am eu bodolaeth. Maent yn cynnwys anifeiliaid fel morloi, morfilod, manatees, dyfrgwn y môr ac eirth gwyn. Maent yn grŵp anffurfiol, wedi'u huno dim ond oherwydd eu dibyniaeth ar amgylcheddau morol ar gyfer bwydo a goroesi.

Mae addasiad mamaliaid morol i ffordd o fyw dyfrol yn amrywio'n sylweddol rhwng rhywogaethau. Mae morfilod a seireniaid yn gwbl ddyfrol ac felly mae'n rhaid iddyn nhw fyw mewn dŵr hallt. Mae morloi a morlewod yn rhan-ddyfrol; maen nhw'n treulio'r mwyafrif o'u hamser yn y dŵr ond mae angen iddyn nhw ddychwelyd i dir ar gyfer gweithgareddau pwysig fel paru, bridio a molio. Ar y llaw arall, mae'r dyfrgi a'r arth wen wedi'u haddasu llawer llai i fyw mewn dŵr.

Amrywia dietau mamaliaid morol yn sylweddol; mae rhai'n bwyta söoplancton, eraill yn bwyta pysgod, sgwid, pysgod cregyn, neu laswellt y môr, ac mae ychydig yn bwyta mamaliaid eraill. Er bod nifer y mamaliaid morol yn fach o gymharu â'r rhai a geir ar dir, mae eu rolau mewn amrywiol ecosystemau yn hynod o bwysig, yn enwedig o ran cynnal a chadw ecosystemau morol, trwy brosesau gan gynnwys rheoleiddio poblogaethau ysglyfaethus. Mae'r rôl hon wrth gynnal ecosystemau yn eu gwneud yn destun pryder arbennig gan fod 23% o rywogaethau mamaliaid morol dan fygythiad ar hyn o bryd.

Dynion yn lladd morloi ffwr gogleddol ar Ynys Saint Paul, Alaska, yn yr 1890au.

Cafodd mamaliaid morol eu hela gyntaf gan bobl frodorol am fwyd ac adnoddau eraill. Lladdwyd llawer hefyd ar gyfer diwydiant masnachol, gan arwain at ddirywiad sydyn ym mhob poblogaeth o rywogaethau a ecsbloetiwyd, e.e. morfilod a morloi. Arweiniodd hela masnachol at ddifodiant 'Hydrodamalis gigas'', minc y môr, morlew Japan a mynach-forlo'r y Caribî. Ar ôl i hela masnachol ddod i ben, mae rhai rhywogaethau, fel y Morfil Llwyd a morlo eliffant y gogledd, wedi cynyddu mewn niferoedd; i'r gwrthwyneb, mae rhywogaethau eraill, fel morfil Eubalaena glacialis, mewn perygl ofnadwy.[1][2] Ar wahân i hela, lleddir llawer o famaliaid morol mewn rhwydi oysgod, lle maent yn dod yn gaeth i rwydo sefydlog ac yn boddi neu'n llwgu. Mae mwy o draffig cefnforol gan longau enfawr yn achosi gwrthdrawiadau rhwng llongau cefnfor cyflym a mamaliaid morol mawr. Mae diraddio cynefinoedd hefyd yn bygwth mamaliaid morol a'u gallu i ddod o hyd i fwyd a'i ddal. Gall llygredd sŵn, er enghraifft, effeithio'n andwyol ar famaliaid sy'n adleoli, ac mae effeithiau parhaus cynhesu byd-eang yn dirywio amgylcheddau Arctig.

Esblygu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae mamaliaid morol yn ffurfio grŵp amrywiol o 129 o rywogaethau sy'n dibynnu ar y cefnfor am eu bodolaeth.[3][4] Maent yn grŵp anffurfiol sydd wedi'u huno dim ond oherwydd eu dibyniaeth ar amgylcheddau morol ar gyfer bwydo.[5] Er gwaethaf yr amrywiaeth rhyngddynt, o ran anatomeg, y prif ysgogydd yn eu hesblygiad yw gwella eu effeithlonrwydd chwilio a hela am fwyd.[6][7]

Mae lefel y ddibyniaeth ar yr amgylchedd morol yn amrywio'n sylweddol yn ôl rhywogaethau. Er enghraifft, mae dolffiniaid a morfilod yn gwbl ddibynnol ar yr amgylchedd morol ar gyfer pob cam o'u bywyd; mae morloi yn bwydo yn y môr ond yn bridio ar dir; a rhaid i eirth gwynion fwydo ar dir.[5]

Cetacean (y morfilod)

Daeth y morfilod yn ddyfrol tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP).[8] Mae'r term "Cetartiodactyla" yn adlewyrchu'r syniad bod morfilod wedi esblygu o fewn grwp y carnolion. Bathwyd y term trwy uno'r enw ar gyfer y ddau orchymyn, Cetacea ac Artiodactyla, yn un gair. O dan y diffiniad hwn, credir mai'r hipopotamysau yw'r perthynas byw agosaf at y morfilod a'r dolffiniaid.[9][10][11][12]

Sireiaid

Daeth seireniaid, y gwartheg môr, yn ddyfrol tua 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd ymddangosiad cyntaf seireniaid yn y cofnod ffosil yn ystod yr Eosen cynnar, ac erbyn yr eosen hwyr, roedd seireniaid wedi arallgyfeirio'n sylweddol. Yn breswylwyr afonydd, aberoedd a dyfroedd morol ger y lan, roeddent yn gallu epilio ac amlhau'n gyflym. Daethpwyd o hyd i'r seirenian mwyaf cyntefig, (y Prorastomws), yn Jamaica, yn wahanol i famaliaid morol eraill a darddodd o'r Hen Fyd (fel y morfilod).[7] Y seirenian pedeircoes cyntaf y gwyddys amdano oedd y Pezosiren o ganol yr Eosen cynnar.[13] Roedd y ssireiaid cynharaf y gwyddys amdanynt, o'r teuluoedd Prorastomidae a Protosirenidae, ill dau wedi'u cyfyngu i'r Eosen, ac roeddent yn greaduriaid amffibiaidd maint moch, pedair coes. Ymddangosodd aelodau cyntaf Dugongidae erbyn canol yr Eosen. Ar y pwynt hwn, roedd y Sireiaid yn gwbl ddyfrol.[14][15]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. National Oceanic and Atmospheric Administration (2011-01-23). "Scientists Successfully Use Sedation to Help Disentangle North Atlantic Right Whale". ScienceDaily. Cyrchwyd 2011-01-27.
  2. Taylor, S.; Walker, T. R. (2017). "North Atlantic right whales in danger". Science 358 (6364): 730–731. doi:10.1126/science.aar2402. PMID 29123056.
  3. Kaschner, K.; Tittensor, D. P.; Ready, J.; Gerrodette, T.; Worm, B. (2011). "Current and Future Patterns of Global Marine Mammal Biodiversity". PLoS ONE 6 (5): e19653. Bibcode 2011PLoSO...619653K. doi:10.1371/journal.pone.0019653. PMC 3100303. PMID 21625431. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3100303.
  4. Pompa, S.; Ehrlich, P. R.; Ceballos, G. (2011-08-16). "Global distribution and conservation of marine mammals". Proceedings of the National Academy of Sciences 108 (33): 13600–13605. Bibcode 2011PNAS..10813600P. doi:10.1073/pnas.1101525108. PMC 3158205. PMID 21808012. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3158205.
  5. 5.0 5.1 Jefferson, T. A.; Webber, M. A.; Pitman, R. L. (2009). Marine Mammals of the World A Comprehensive Guide to their Identification (arg. 1st). London: Academic Press. tt. 7–16. ISBN 978-0-12-383853-7. OCLC 326418543.
  6. Uhen, M. D. (2007). "Evolution of marine mammals: Back to the sea after 300 million years". The Anatomical Record 290 (6): 514–22. doi:10.1002/ar.20545. PMID 17516441.cyhoeddiad agored - am ddim, agored
  7. 7.0 7.1 Savage, R. J. G.; Domning, Daryl P.; Thewissen, J. G. M. (1994). "Fossil Sirenia of the West Atlantic and Caribbean Region. V. the Most Primitive Known Sirenian, Prorastomus sirenoides Owen, 1855". Journal of Vertebrate Paleontology 14 (3): 427–449. doi:10.1080/02724634.1994.10011569. JSTOR 4523580.
  8. Castro, Peter; Huber, Michael E. (2007). Marine Biology (arg. 7th). McGraw-Hill. t. 192. ISBN 978-0-07-302819-4.
  9. Agnarsson, I.; May-Collado, LJ. (2008). "The phylogeny of Cetartiodactyla: the importance of dense taxon sampling, missing data, and the remarkable promise of cytochrome b to provide reliable species-level phylogenies". Molecular Phylogenetics and Evolution 48 (3): 964–985. doi:10.1016/j.ympev.2008.05.046. PMID 18590827.cyhoeddiad agored - am ddim, agored
  10. Price, SA.; Bininda-Emonds, OR.; Gittleman, JL. (2005). "A complete phylogeny of the whales, dolphins and even-toed hoofed mammals – Cetartiodactyla". Biological Reviews of the Cambridge Philosophical Society 80 (3): 445–473. doi:10.1017/s1464793105006743. PMID 16094808. https://semanticscholar.org/paper/c800efd62302c28907a6a2b07d021f2426d44d83.cyhoeddiad agored - am ddim, agored
  11. Montgelard, C.; Catzeflis, FM.; Douzery, E. (1997). "Phylogenetic relationships of artiodactyls and cetaceans as deduced from the comparison of cytochrome b and 12S RNA mitochondrial sequences". Molecular Biology and Evolution 14 (5): 550–559. doi:10.1093/oxfordjournals.molbev.a025792. PMID 9159933. http://mbe.oxfordjournals.org/content/14/5/550.short.cyhoeddiad agored - am ddim, agored
  12. Spaulding, M.; O'Leary, MA.; Gatesy, J. (2009). "Relationships of Cetacea -Artiodactyla- Among Mammals: Increased Taxon Sampling Alters Interpretations of Key Fossils and Character Evolution". PLoS ONE 4 (9): e7062. Bibcode 2009PLoSO...4.7062S. doi:10.1371/journal.pone.0007062. PMC 2740860. PMID 19774069. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2740860.cyhoeddiad agored - am ddim, agored
  13. Domning DP (2001). "The Earliest Known Fully Quadrupedal Sirenian". Nature 413 (6856): 625–627. Bibcode 2001Natur.413..625D. doi:10.1038/35098072. PMID 11675784.
  14. Prins, Herbert H. T.; Gordon, Iain J., gol. (2014). "The Biological Invasion of Sirenia into Australasia". Invasion Biology and Ecological Theory. Cambridge: Cambridge University Press. t. 123. ISBN 978-1-107-03581-2. OCLC 850909221.
  15. Samonds, K. E.; Zalmout, I. S.; Irwin, M. T.; Krause, D. W.; Rogers, R. R.; Raharivony, L. L. (2009). "Eotheroides lambondrano, new Middle Eocene seacow (Mammalia, Sirenia) from the Mahajanga Basin, Northwestern Madagascar". Journal of Vertebrate Paleontology 29 (4): 1233–1243. doi:10.1671/039.029.0417.