Malo

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Maloù)
Jump to navigation Jump to search
Malo
Saint Malo.jpg
Ganwyd 27 Mawrth 0487 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Tachwedd 0565 Edit this on Wikidata (78 oed)
Archingeay Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Llydaw Llydaw
Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth offeiriad Edit this on Wikidata
Blodeuodd 1986 Edit this on Wikidata
Swydd esgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 15 Tachwedd Edit this on Wikidata

Sant sy'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw oedd Malo (27 Mawrth 520 - 15 Tachwedd 621; Llydaweg: Maloù, Lladin: Maclovius).

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, ond credir iddo gael ei eni yn Llancarfan, Bro Morgannwg, tua diwedd y 6g, ac iddo gael ei addysg yn Llanilltud Fawr. Roedd e'n fab i Caradog ab Ynyr Gwent a Derwela ac yn gefnder i Samson. Dywedir iddo fynd gyda Sant Brendan o Iwerddon ar ei fordaith enwog. Daeth yn esgob yn Llancarfan, ac yn sgil y Pla Melyn fe aeth Malo â nifer o fynaich i Lydaw, a sefydlon nhw wladfa Gristnogol yno a ddatblygodd yn dref dros y canrifoedd. Rhoddodd y sant ei enw i'r ddinas honno, Sant-Maloù ("Saint-Malo" yn Ffrangeg; "St Malo" yn Saesneg). Dethir ei ŵyl ar 15 Chwefror. Dywedir mewn un ffynhonnell iddo farw yn 649.

Sant Malo a Sant Brendan ar eu mordaith; argraffwyd y llun yn yr Almaen yn 1460.

Yn yr iaith Ffrangeg, mae yna ansoddair Malouin(s) neu Malouine(s) ar gyfer unrhyw beth sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â thref St Malo, a thrwy hynny daw'r enwau Ffrangeg a Sbaeneg ar Ynysoedd y Falklands: Iles malouines ac Islas Malvinas.

Buchedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennwyd ei fuchedd, Vita S. Maclovii (Buchedd Sant Malo) tua 870.[angen ffynhonnell]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]