M. Carey Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
M. Carey Thomas
Miss M. Carey Thomas.jpg
Ganwyd 2 Ionawr 1857 Edit this on Wikidata
Baltimore Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Rhagfyr 1935 Edit this on Wikidata (78 oed)
Philadelphia Edit this on Wikidata
Man preswyl Baltimore Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaeth ieithydd, addysgwr, swffragét, ymgyrchydd pleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Partner Mary Garrett Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Martha Carey Thomas (2 Ionawr 1857 - 2 Rhagfyr 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ieithydd, addysgwr, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Hi oedd ail brifathrawes Coleg Bryn Mawr, Pennsylvania. [1]

Fe'i ganed yn Baltimore, Maryland a bu farw yn Philadelphia. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Zurich, Prifysgol Johns Hopkins a Phrifysgol Leipzig. [2]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Hoffai gael ei galw'n "Carey Thomas", yn ddiweddarach mewn bywyd ond fe'i gelwid yn "Minnie" gan ei theulu pan oedd yn blentyn. Roedd yn ferch i James Carey Thomas a Mary Whitall Thomas. Cafodd ei chenhedlu "mewn golau dydd llawn," oherwydd roedd ei thad a oedd yn feddyg, yn meddwl y byddai hyn yn lleihau'r siawns y byddai ei wraig yn erthylu.[3]:3

Martha Carey Thomas pan oedd yn Llywydd Coleg Bryn Mawr (rhwng 1894-1922).

Roedd nifer o Grynnwyr adnabyddus yn ei theulu, gan gynnwys ei modryb a'i hewyrth, Robert Pearsall Smith a Hannah Whitall Smith, a'i chefndryd Alys Pearsall Smith (gwraig gyntaf Bertrand Russell) a Mary Smith Berenson Costelloe (a briododd Bernard Berenson).

Yn 1864, pan oedd Carey Thomas ond yn saith mlwydd oed, cafodd ei llosgi'n ddifrifol wrth geisio helpu ei chogydd, Eliza, i baratoi cinio. Aeth ffrog Thomas ar dân. Roedd ei hadferiad yn hir ac yn llafurus a chreithiwyd hi gan hyn. Yn ei harddegau, dylanwadwyd yn gryf arni gan ffeministiaeth gadarn ei mam a chwaer ei mam, Hannah Whitall Smith, a ddaeth yn bregethwr amlwg. Nid oedd ei thad yn gwbl gyfforddus â syniadau ffeministaidd, ond roedd ei ferch yn annibynnol iawn, a chefnogodd hi yn yr ymdrechion hyn. Er bod ei rhieni yn aelodau uniongred o Gymdeithas y Cyfeillion (y 'Crynnwyr'), arweiniodd addysg Thomas a theithio Ewrop hi i gwestiynu'r credoau hynny a datblygodd gariad at gerddoriaeth a theatr, a waharddwyd gan Grynwyr Uniongred (Orthodox Quakers). Arweiniodd y cwestiynu crefyddol hwn at anghytundeb gyda'i mam.

Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Aeth Thomas i Sage College, ysgol i ferched ym Mhrifysgol Cornell, ym mis Medi, 1875, lle newidiodd ei henw cyntaf yn ffurfiol i Carey. Graddiodd o Brifysgol Cornell ym 1877. Cynigiodd Cornell swydd athro llenyddiaeth a deon Coleg Sage iddi, ond gwrthododd y cynnig.

Astudiodd Groeg ym Mhrifysgol Johns Hopkins, ond gadawodd oherwydd nad oedd ganddi hawl i fynychu dosbarthiadau. Gwnaeth waith graddedig pellach ym Mhrifysgol Leipzig, ond nid oedd y brifysgol honno'n dyfarnu graddau i fenywod. Yna aeth i Brifysgol Zurich ac ennill Ph.D. mewn ieithyddiaeth, summa cum laude, yn 1882 am ei thraethawd hir, sef dadansoddiad philolegol o "Sir Gawain a'r Green Knight". Hi oedd y fenyw gyntaf a'r tramorwr cyntaf i dderbyn doethuriaeth o'r fath o'r brifysgol.

Yna treuliodd beth amser ym Mharis, lle mynychodd ddarlithoedd gan Gaston Paris yn y Sorbonne, ac yna dychwelodd i'r Unol Daleithiau. Ni ddilynodd Thomas ei gradd allan o gariad at ei gwaith academaidd, ond yn hytrach o'r awydd tanbaid ynddi i ddangos i Americanwyr fod gan fenywod yr un gallu deallusol â dynion.

Gwrth-Iddewig[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweithiodd Thomas i wahardd Iddewon rhag cael eu derbyn gan Goleg Bryn Mawr, fel aelodau cyfadran ac fel myfyrwyr, fel y nododd y bywgraffydd Helen Lefkowitz Horowitz.[4] Gwaharddodd gyflogi athrawon Iddewig, ac yn ddiweddarach gweithiodd i ddileu ymgeiswyr Iddewig rhag cael eu hystyried ar gyfer swyddi cyfadran, gan nodi ei bod yn well ganddi gael cyfadran a oedd yn cynnwys “ein stoc Eingl-Sacsonaidd da ein hunain."

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Man geni: http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml; dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016.
  2. Alma mater: http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml; dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016. http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml; dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016. http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml; dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016. http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml; dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016.
  3. Horowitz, Helen (1994). The Power and Passion of M. Carey Thomas. New York: Knopf. ISBN 0-252-06811-4.
  4. "Bryn Mawr College to place moratorium on using name of founder who was known anti-Semite". JTA. 28 Awst 2017. http://www.jta.org/2017/08/28/news-opinion/united-states/bryn-mawr-college-to-place-moratorium-on-using-name-of-founder-who-was-known-anti-semite. Adalwyd 29 Awst 2017.