Lyn Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lyn Evans
Lyn Evans - pictures donated by CERN-7.jpg
Ganwyd 1945 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol Abertawe Edit this on Wikidata
Gwaith ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr CERN Edit this on Wikidata
Aelod o Y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Gwyddonydd Cymreig yw Dr Lyn Evans (ganed 1945). Ef oedd cyfarwyddwr prosiect CERN, ger Genefa yn y Swistir.

Ganwyd a magwyd Evans yn Aberdâr, yng nghymoedd de Cymru. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr, lle bu ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Ond cafodd hi'n anodd pasio ei Lefel O mewn Ffrangeg, cymhwyster a oedd yn angenrheidiol iddo allu astudio cwrs gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe.[1] Roedd ganddo ddiddordeb mewn cemeg pan oedd yn ifanc,[2] a cofrestrodd i astudio'r pwnc hwn yn y brifysgol, cyn newidi astudio ffiseg yn ei ail flwyddyn yn y brifysgol, gan ei fod yn canfod y pwnc yn haws[3][3] Daeth yn gymrawd anrhydedd o Brifysgol Abertawe yn 2002.[4] Gwbrwywyd â Doethuriaeth Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Morgannwg ym mis Gorffennaf 2010.

Cymrawd ymwchwil oedd Evans yn CERN i gychwyn, wedi iddo ymweld â'r sefydliad am y tro cyntaf ym 1969.[3] Yn ogystal a bod yn gyfarwyddwr CERN erbyn hyn, mae'n arweinydd y Prosiect Gwrthdrawydd hadronnau mawr (Large Hadron Collider Project) yn CERN, sy'n ceisio ail-greu eiliadau cyntaf y bydysawd yn dilyn y Glec Fawr. Cafodd y llysenw Evans yr Atom gan y wasg.[2]

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberdâr ac ym Prifysgol Cymru, Abertawe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Lyn Evans. BBC Scifiles. Adalwyd ar 5 Rhagfr 2008.
  2. 2.0 2.1  Meet Evans the Atom, who will end the world on Wednesday. Daily Mail (7 Medi 2008). Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2008.
  3. 3.0 3.1 3.2  Scientist in charge of collider. BBC Wales. Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2009.
  4.  Lyn Evans. Cern Courier (1 Tachwedd 2002). Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]