Luigi Alamanni

Oddi ar Wicipedia
Luigi Alamanni
Ganwyd6 Mawrth 1495 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1556 Edit this on Wikidata
Amboise Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PerthnasauLuigi Alamanni Edit this on Wikidata

Bardd a gwleidydd Eidalaidd oedd Luigi Alamanni (28 Hydref 149518 Ebrill 1556).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Fflorens i deulu nodedig. Ymddisgleiriodd yn ei astudiaethau athroniaeth a llenyddiaeth Roeg hynafol, a daeth yn gysylltiedig yn gynnar â'r teulu Medici. Bu'n rhaid iddo ffoi i Fenis yn 1522 am gynllwynio yn erbyn y Cardinal Giulio de' Medici (yn ddiweddarach y Pab Clement VII). Fe'i carcharwyd am gyfnod yn Brescia, ac wedi iddo gael ei ryddhau fe dreuliodd gyfnod alltud yn crwydro Ffrainc a Genoa. Dychwelodd i Fflorens yn 1527 yn sgil cwymp y Medici yn y ddinas honno, ond bu'n rhaid i adael unwaith eto pan ail-sefydlwyd llywodraeth y Medici yn 1532.

Penderfynodd Alamanni ymsefydlu yn Ffrainc ac yno bu'n ymwneud â nifer o gystadlaethau barddoni. Fe'i galwyd i lys y Brenin Ffransis I, a chafodd ei ddanfon ar sawl taith swyddogol i Rufain ac i Napoli. Derbyniodd Urdd Sant Mihangel am ei wasanaeth i'r goron, ac er ei hanes â'r Medici fe'i penodwyd i swydd o bwys yng ngosgordd Catrin de Medici. Cafodd ei ddanfon yn llysgennad i'r Ymerawdwr Siarl V yn 1544

Bu farw yn Amboise yn 1556. Roedd yn dad i ddau fab, a daeth un ohonynt yn Esgob Maçon.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y casgliad cyntaf o'i farddoniaeth yn Lyons yn 1532–33, gan gynnwys galarganeuon, bugeilgerddi, dychangerddi, sonedau, emynau, salmau, a chyfieithiad o Antigone Soffocles. Cyfansoddodd gerdd ddidactig ddiodl ar bwnc amaeth, Della Coltivatione, a gyhoeddwyd ym Mharis yn 1546. Cyhoeddodd hefyd gerdd hir o'r enw Girone il Cortefe (1548), ar sail rhamant Ffrangeg. Ymhlith ei weithiau eraill, sydd yn llai enwog, mae'r arwrgerdd l'Avarchide a'r comedi La Flora. Mae'n debyg taw cyfraniad mwyaf Alamanni at lenyddiaeth Eidaleg yw cyfansoddi'r epigramau cyntaf yn nhafodiaith Tysgani. Roedd hefyd yn llythyrwr amlwg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Encyclopaedia Britannica: A Dictionary of Arts, Sciences, Literature and General Information (yn Saesneg). University Press. 1910. t. 468.