Lost in Translation
![]() | |
| Enghraifft o: | ffilm |
|---|---|
| Crëwr | Sofia Coppola |
| Lliw/iau | lliw |
| Gwlad | Unol Daleithiau America, Japan |
| Dyddiad cyhoeddi | 29 Awst 2003, 31 Awst 2003, 5 Medi 2003, 3 Hydref 2003, 17 Hydref 2003, 7 Tachwedd 2003, 5 Rhagfyr 2003, 19 Rhagfyr 2003, 25 Rhagfyr 2003, 26 Rhagfyr 2003, 7 Ionawr 2004, 8 Ionawr 2004, 9 Ionawr 2004, 14 Ionawr 2004 |
| Genre | Ffilm gomedi ramantus, ffilm annibynnol, ffilm ddrama |
| Cyfres | BBC's 100 Greatest Films of the 21st Century |
| Prif bwnc | fleeting relationship, cyfeillgarwch, midlife crisis, Dirfodaeth, cydymdeimlad |
| Lleoliad y gwaith | Tokyo, Japan, Kyoto, Heian Jingū |
| Hyd | 97 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | Sofia Coppola |
| Cynhyrchydd/wyr | Sofia Coppola, Ross Katz |
| Cwmni cynhyrchu | American Zoetrope, Tohokushinsha Film |
| Cyfansoddwr | Kevin Shields |
| Dosbarthydd | Focus Features, Pathé Distribution |
| Iaith wreiddiol | Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Almaeneg |
| Sinematograffydd | Lance Acord |
| Gwefan | https://www.lost-in-translation.com/ |
| Sgriptiwr | Sofia Coppola |
| cost | 119,000,000 $ (UDA) |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0209xj |
Ffilm ddrama-gomedi gan y cyfarwyddwr Sofia Coppola yw Lost in Translation a gyhoeddwyd yn 2003. Fe'i cynhyrchwyd gan Sofia Coppola a Ross Katz yn Japan ac Unol Daleithiau America; roedd sawl cwmni cynhyrchu, gan gynnwys: American Zoetrope, Tohokushinsha Film. Lleolwyd y stori yn Japan, Tokyo a Kyoto a chafodd ei ffilmio yn Japan, Tokyo a Kyoto. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg a Japaneg a hynny gan Sofia Coppola.
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Anna Faris, Bill Murray, Scarlett Johansson, Giovanni Ribisi, Akira, François Du Bois, Takashi Fujii, Hiromix, Diamond Yukai, Akiko Monō, Akira Yamaguchi, Akiko Takeshita, Nancy Steiner, Fumihiro Hayashi a Hiroko Kawasaki. Mae'r ffilm yn 97 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw, gyda gwedd gymharol (aspect ratio) o sgrin llydan (sef 1.85:1). [3][4][5][6][7][8]
Lance Acord oedd sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Sarah Flack sydd ymhlith y golygyddion mwyaf toreithiog.
Fel y nodwyd, cyhoeddwyd y ffilm yn 2003. Ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno oedd Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl sef ffilm ffantasi gan y cyfarwyddwr ffilm Gore Verbinski. Hyd at 2022 roedd o leiaf 10,700 o ffilmiau Ffrangeg wedi gweld golau dydd.
Plot
[golygu | golygu cod]Egyr y ffilm wrthi i gymeriad Bob Harris (Bill Murray), a arferai fod yn actor ffilm enwog pan oedd yn iâu, gyrraedd yn Tokyo er mwyn ffilmio hysbyseb ar gyfer chwisgi Suntory. (Mae hyn yn gyfeiriad at actorion go-iawn o Hollywood sy'n hysbysebu cynhyrchion dramor, gan gynnwys tad Sofia Coppola, Francis Ford Coppola, a wnaeth hysbysebion gyda Akira Kurosawa tra'n ffilmio.[9])
Mae Charlotte (Scarlett Johansson) yn wraig ifanc i ffotograffydd enwogion sy'n gweithio yn Tokyo. Pan mae ei gwr yn ei gadael ar ei phen ei hun er mwyn mynd i dynnu lluniau, mae Charlotte yn ansicr o'i phresennol, ei dyfodol ac o'r gwr mae hi wedi priodi. Mae'n amlwg hefyd fod perthynas Bob gyda'i wraig o bum mlynedd ar hugain yn syrffedus a phrin yw'r rhamant sydd rhyngddynt a datgelir hyn wrth iddo'i ffonio yn ôl yn yr Unol Daleithiau. Ffurfia Bob a Charlotte berthynas ar ôl iddynt gyfarfod ym mar y gwesty lle maent yn aros a gwelwn ddechreuadau cyfeillgarwch rhwng y ddau. Gwelwn y ddau ohonynt yn darganfod Tokyo gyda'i gilydd wrth iddynt brofi'r gwahaniaeth rhwng diwylliant Siapanëaidd ac Americanaidd. Trwy rannu'r un profiadau ac amser yng nghwmni ei gilydd, daw'r ddau agosach at ei gilydd am nad yw'r ddau'n medru cysgu yn y ddinas ddieithr.
Ar noson olaf ond un Bob, mae ef yn tynnu sylw cantores rheolaidd bar y gwesty. Trannoeth, dihuna Bob i ddarganfod y wraig hon yn ei ystafell tra bod Charlotte yn aros amdano. Yn ddiweddarach, ceir gwrthdaro byr rhwng y ddau pan maent yn cyfarfod mewn bwyty ac ymddengys mai gwraidd y gwrthdaro yw'r ffaith fod Bob wedi cysgu gyda'r wraig arall. Yn hwyrach y noson honno, yn ystod y larwn dân, mae'r ddau yn cymodi ac yn datgan y byddant yn gweld eisiau ei gilydd.
Ar fore ei ymadawiad, wrth i Bob deithio yn ei dacsi i'r maes awyr, gwêl Charlotte ar stryd brysur. Gofynna i'r gyrrwr i stopio, aiff allan o'r car a dilyna Charlotte. Pan mae'n ei chyrraedd, wyneba'r ddau ei gilydd am foment hir ac yna cofleidiant ei gilydd. Sibryda Bob rhywbeth yng nghlust y Charlotte dagreuol, cusana hun ac yna mae'n gadael.
Ar lefel arwynebol, mae Lost in Translation yn ffilm sy'n ymdrin â sioc diwylliannol. Astudia'r ffilm y thema hon gyda diwylliant ddinesig Siapan fodern yn gefndir iddi.
Cyfarwyddwr
[golygu | golygu cod]
Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Sofia Coppola ar 14 Mai 1971 yn Ninas Efrog Newydd. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1972 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Mills.
Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae:
- Gwobr Urdd Awduron America
- Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol[10]
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, International Cinephile Society Award for Best Actor.
Cafodd ei henwebu am y gwobrau canlynol: Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, European Film Award for Best Non-European Film, International Cinephile Society Award for Best Film. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 119,000,000 $ (UDA).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd Sofia Coppola nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Rhestr Wicidata:
| Ffilm | Delwedd | Gwlad | Iaith wreiddiol | dyddiad |
|---|---|---|---|---|
| A Very Murray Christmas | Unol Daleithiau America | Saesneg | 2015-12-04 | |
| Lick the Star | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1998-10-01 | |
| Lost in Translation | Unol Daleithiau America Japan |
Saesneg Japaneg Ffrangeg Almaeneg |
2003-08-29 | |
| Marie Antoinette | Japan Unol Daleithiau America Ffrainc |
Saesneg | 2006-05-24 | |
| On The Rocks | Unol Daleithiau America | Saesneg | 2020-01-01 | |
| Priscilla | Unol Daleithiau America Yr Eidal |
Saesneg | 2023-09-04 | |
| Somewhere | Unol Daleithiau America Yr Eidal |
Saesneg | 2010-11-11 | |
| The Beguiled | Unol Daleithiau America | Saesneg | 2017-05-24 | |
| The Bling Ring | Yr Almaen Japan Unol Daleithiau America y Deyrnas Unedig Ffrainc |
Saesneg | 2013-05-16 | |
| The Virgin Suicides | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1999-05-19 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.indiewire.com/article/decade_sofia_coppola_on_lost_in_translation.
- ↑ http://www.cinemarx.ro/filme/Lost-in-Translation-Rataciti-printre-cuvinte-1426.html. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2016.
- ↑ Prif bwnc y ffilm: https://www.bfi.org.uk/news-opinion/news-bfi/lists/10-great-films-about-brief-encounters. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2020.
- ↑ Genre: http://www.tv-express.com/programme-television-d8-lost_in_translation-1539308-3-0.php. http://www.empireonline.com/features/50-greatest-american-indies/p10. http://www.virginmedia.com/movies/trailers-clips/scarlett-johansson-exposed/72477647001/?filter=shows.
- ↑ Iaith wreiddiol: http://www.indiewire.com/article/decade_sofia_coppola_on_lost_in_translation.
- ↑ Diada cyhoeddi: https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. http://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database. https://www.imdb.com/title/tt0335266/releaseinfo. Internet Movie Database.
- ↑ Cyfarwyddwr: http://www.cinemarx.ro/filme/Lost-in-Translation-Rataciti-printre-cuvinte-1426.html. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2016. http://stopklatka.pl/film/miedzy-slowami. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2016. http://www.interfilmes.com/filme_13232_encontros.e.desencontros.html. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2016. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2016.
- ↑ Sgript: http://www.cinemarx.ro/filme/Lost-in-Translation-Rataciti-printre-cuvinte-1426.html. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2016.
- ↑ "Screenhead.com Fideo o'r hysbyseb yr ymddangosodd Francis Ford Coppola ynddi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-07. Cyrchwyd 2008-10-20.
- ↑ https://www.oscars.org/oscars/ceremonies/2004.
- ↑ "Lost in Translation". Cyrchwyd 5 Hydref 2021.
- ↑ (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/
- Rhestrau cuddiedig o Wicidata
- Cyfeiriadau cuddiedig o Wicidata
- Ffilmiau gan gyfarwyddwyr ffilm benywaidd Ffrangeg
- Ffilmiau lliw o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau drama o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau Saesneg
- Ffilmiau Japaneg
- Ffilmiau 2003
- Ffilmiau gyda dros 10 o actorion lleisiol
- Ffilmiau a olygwyd gan Sarah Flack
- Ffilmiau sydd a'u stori wedi'i lleoli yn Japan
- Ffilmiau a gyfarwyddwyd gan Sofia Coppola
- Ffilmiau Focus Features


