Lois Blake

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plac i goffáu cyfraniad Lois Blake yn Llangwm

Roedd Lois Blake (18901974) yn un o arweinwyr pennaf y mudiad dawnsio gwerin Cymreig yn yr 20g ac yn un o brif symbolwyr sefydlu Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 1949. Yn ôl gwefan Amgueddfa Werin Cymru, Lois Blake oedd "bennaf gyfrifol am achub gweddillion y traddodiad a fu unwaith mor boblogaidd yng Nghymru."[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Saesnes o Lerpwl oedd Lois Blake on symudodd i fyw i 'Melysfan' Langwm, Sir Ddinbych yn 1931. Pan oedd yn byw yn Lloegr roedd yn weithgar gyda'r English Folk Dance Society. Ar symud i Langwm, synwyd hi mai prin iawn oedd y dawnsio gwerin a welwyd yng Nghymru ac aeth ati i ymchwilio am ddawnsiau a cherddorieth Gymreig.

Oherwydd ei gweithgarwch Lois Blake oedd Llywydd gyntaf Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a sefydlwyd yn 1949,[2] ac yna'n drefnydd hefyd.[3] 38 mlynedd ar ôl sefydlu'r English Folk Dance Society gan Cecil Sharp yn 1911.

Yn adroddiad blynyddol gyntaf y Gymdeithas yn 1950 nodwyd pwysigrwydd a gweithgaredd Lois;

"Yr ydym yn ddyledus i'n Llywydd a'n Trefnydd, Mrs. Lois Blake, am ei gwaith arbennig o ennyn diddordeb yn y dawiisio Gwerin Cymreig yn y gwahanol glybiau a Sefydiiad y Merched, a hefyd am y gwaith ymchwil gwerthfawr a gyfiawnodd ers blynyddoedd ynglyn a gwreiddiau ein dawnsiau Cenedlaethol.
Trefnodd Mrs. Blake amryw o Ysgolion Undydd i Athrawon ac Arwein- wyr Ieuenctid yn y Rhyl, Llanfair Caereinion, Rhuthun, Dyserth, Bae Colwyn a'r Wyddgrug, a hefyd cymerodd gyrsiau preswyl o dan nawdd yr Urdd yn Aberystwyth."

Cyhoeddwyd nifer o bamffledi ag arnynt ddawnsiau a cherddoriaeth, a'i gwnaeth yn bosib ailgyhoeddi dawnsiau o'r gorffennol fel Jig Arglwydd Caernarfon o 1652, set Llangadfan o 1790 a Dawns Llanofer, a oedd yn boblogaidd yn Llys Llanofer tan ddiwedd y 19g.[1]

Codwyd plac llechen mewn coffadwriaeth iddi yn Llangwm gan Gymreithas Ddawns Werin Cymru yn 1999 ar 50 mlwyddiant sefydlu'r Gymdeithas. Dadorchuddiwyd y plac gan ei merch, Felicity.

Gwnaeth Lois Blake waith yn cofnodi parhâd traddodiad y Mari Lwyd gan nodi, mewn llythyr i'r 'English Dance and Song' mannau ym Mro Morgannwg lle roedd dal yn fyw ac yn cael adfywiad.[4]

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir Casgliad Lois Blake yn y Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan fel rhan o gasgliad y Gymdeithas Ddawns Werin. Rhoddwyd y casgliad i'r Gymdeithas gan ei merch, Felicity.[5]

Ceir Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake ar gyfer dawnsio gwerin er cof a diolch iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[6] Bydd y cystadleuwyr yn dawnsio dawnseydd wedi eu gosod.[7] Yn ogystal â'r Tlws, ceir gwobr ariannol hefyd i'r tîm dawnsio fuddugol.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]