Llywodraethiaeth Qalqilya

Oddi ar Wicipedia
Llywodraethiaeth Qalqilya
Enghraifft o'r canlynolllywodraethiaethau Palesteina Edit this on Wikidata
Label brodorolمحافظة قلقيلية Edit this on Wikidata
Poblogaeth121,671 Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Map
Enw brodorolمحافظة قلقيلية Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Rhanbarthy Lan Orllewinol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Llywodraethiaeth Qalqilya neu Lywodraethiaeth Calcilia (Arabeg: محافظة قلقيلية Muḥāfaẓat Qalqīlya; Hebraeg: נפת קלקיליה Nafat Qalqilya) yn un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina. Lleolir y Llywodraethiaeth ar ochr ogledd-orllewinnol y Lan Orllewinol yn Awdurdod Palesteina. Ei phrifddinas neu muhfaza (sedd) yw dinas Qalqilya sy'n ffinio â'r Llinell Werdd (ffin 1967 gydag Israel wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod. Mae Mur Israelaidd y Lan Orllewinol yn torri ar draws rhan helaeth o'r Llywodraethiaeth.

Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 112,400 o drigolion ganol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 119,042 o drigolion.[1]

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Mae'r boblogaeth ar gyfartaledd yn ifanc iawn ac mae tua 37.2 y cant yn iau na 15 oed, a dim ond 3.4 y cant sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 100 y cant o'r boblogaeth yn Fwslim. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 64.5 y cant o gyfanswm y boblogaeth yn ffoaduriaid yn yr un flwyddyn.

Newid yn y Boblogaeth
Cyfrifiad Trigolion[1]
1997 72.007
2007 91.217
2017 112.400

Is-adrannau[golygu | golygu cod]

Map ardal Qalqilya yn dangos rheolaeth tiriogaeth

Dinasoedd[golygu | golygu cod]

Azzun
Hableh
Qalqilya
Kafr Thulth

Trefi a Phentrefi[golygu | golygu cod]

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]