Llythyr Paul at y Philipiaid
Gwedd
Y Beibl |
---|
Y Testament Newydd |
Credir i'r Apostol Paul ysgrifennu Llythyr Paul at y Philipiaid (talfyriad: Phil.) tua'r flwyddyn 60 OC. Mae'n un o gyfres o lythyrau ganddo yn y Testament Newydd a dyma'r unfed lyfr ar ddeg yn y TN yn y Beibl canonaidd. Ysgrifennodd y llythyr at Gristnogion cynnar yn ninas Philippi ym Macedonia.
Yn y llythyr mae Paul yn diolch i'r Philipiaid am eu hanrhegion a anfonasent iddo yn ei garchar yn Rhufain. Dywed ei fod yn dal i ymledu'r Efengyl er ei fod yn garcharor. Mae gan y llythyr le pwysig yn hanes diwinyddiaeth Gristnogol ac athrawiaeth yr eglwys oherwydd yr adran ynddo sy'n trafod natur Crist a'i Ymgnawdoliad.