Llynnau Diffwys

Oddi ar Wicipedia
Llynnau Diffwys
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.00177°N 3.999709°W Edit this on Wikidata
Map

Dau lyn yn Eryri yw Llynnau Diffwys. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Moelwynion rhwng Beddgelert a Blaenau Ffestiniog.

Saif y llynnau ar dir uchel tua milltir i'r dwyrain o gopa'r Cnicht. Llifa ffrwd o'r llyn i Afon Cwm-y-foel, tarddle un o lednentydd Afon Croesor.[1]

Lleolir Llynnau Diffwys mewn ardal o rosdir gwlyb a mynyddoedd creigiog sy'n cynnwys sawl llyn arall o fewn rhyw filltir neu ddwy i'r llyn hwn, yn cynnwys Llyn y Biswail, Llyn Croesor, Llyn yr Adar, Llyn Llagi a Llyn Cwm-corsiog.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000. Taflen 115.

{{comin|Category: