Llyn Croesor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Croesor
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Croesor. Saif i'r gogledd-ddwyrain o bebtref Croesor ac i'r gorllewin o dref Blaenau Ffestiniog, 1,400 troedfedd uwch lefel y môr, ym mhen uchaf Cwm Croesor. Mae copa'r Moelwyn Mawr i'r de ohono a Cnicht i'r gogledd-orllewin.

Amgylchynir y llyn, sydd ag arwynebedd o 5 acer, gan olion chwareli llechi Croesor a'r Rhosydd. Adeiladwyd argae i godi lefel y dŵr er mwyn ei ddefnyddio yn y chwareli.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)