Llyn Lliwbran

Oddi ar Wicipedia
Llyn Lliwbran
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,450 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.814682°N 3.669325°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Lliwbran (hefyd: Llyn Brân a Llimbran ar lafar yn lleol[1]). Fe'i lleolir tua 3 milltir i'r de o bentref Llanuwchllyn yn ardal Meirionnydd.

Llyn Lliwbran

Saif y llyn bychan hwn 1,450 troedfedd[1] i fyny mewn cwm ar lethrau dwyreiniol Aran Benllyn. Mae ffrydiau yn llifo o ben dwyreiniol y llyn i lifo am hanner milltir i gyfeiriad y dwyrain a llifo i afon fechan yng Nghwm Croes sy'n llifo wedyn i Afon Twrch, un o lednentydd Afon Dyfrdwy.[2]

Ceir brithyll o liw euraidd yn y llyn.[1]

Enwau[golygu | golygu cod]

Ceir sawl enw ar y llyn hwn. Ar y map Arolwg Ordnans ceir "Llyn Lliwbran". Ar lafar yn lleol fe'i gelwir yn "Llyn Brân" a "Llimbran" hefyd. Yn ogystal, cyfeirir ato weithiau fel "Llyn Aran" ond ceir Llyn Aran arall ger Dolgellau, dan gysgod creigiau Cader Idris.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.