Llyn Aran

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Aran
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.707521°N 3.875129°W Edit this on Wikidata
Erthygl am y llyn ger Cader Idris yw hon. Am y llyn ger Aran Benllyn gweler Llyn Aran (Lliwbran)
Llyn Aran

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Aran[1] (hefyd: Llyn Pen Aran). Fe'i lleolir tua 2.5 milltir i'r de o dref Dolgellau yn ardal Meirionnydd.

Saif y llyn bychan hwn mewn cwm uchel 1,579 troedfedd[2] i fyny rhwng prif grib Cader Idris a chopa Gau Graig. Dyma darddle Afon Aran, sy'n llifo o ben gogleddol y llyn i lifo i Afon Wnion yn Nolgellau.[1]

Mae'n llyn anghysbell heb lwybr hawdd iddo. Ceir brithyll ynddo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).