Neidio i'r cynnwys

Llygoden yr ŷd

Oddi ar Wicipedia
Llygoden yr ŷd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Muridae
Genws: Murinae
Rhywogaeth: M. minutus
Enw deuenwol
Micromys minutus
Pallas, 1771
Dosbarthiad daearyddol

Llygoden fach frowngoch gyda chynffon afaelog yw llygoden yr ŷd (Micromys minutus). Mae i'w gael mewn rhanbarthau ledled Ewrop a gogledd Asia. Nid yw'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "fregus".[1]

Mae'n byw mewn glaswelltir a thir âr, yn enwedig ardaloedd o laswellt tal fel ydau, ymylon ffyrdd, gwrychoedd, corsleoedd a morfeydd heli. Mae'r planhigion tal yn darparu lleoedd addas lle gall adeiladu ei nyth nodweddiadol - pelen o laswellt wedi'u gwehyddu'n dynn.

Nyth pelennog o lygoden yr ŷd

Mae ganddi drwyn di-fin, llygaid bach a chlustiau bach blewog (yn wahanol i rywogaethau eraill o lygod yng ngwledydd Prydain). Mae ei ffwr yn llwytgoch neu felyngoch gyda thor wen. Mae'n defnyddio ei chynffon, sydd cyhyd â'r pen a'r corff, i afael â chorsennau'r ŷd wrth iddi ddringo yn eu plith.

Fel arfer mae'n bwyta hadau, aeron a phryfed, ond weithiau mwsogl, gwreiddiau a ffyngau hefyd. Mae'n gallu cymryd grawn o bennau ŷd, gan adael gweddillion siâp cryman nodweddiadol, ond anaml y mae'n achosi llawer o ddifrod i gnydau.

Mae'n byw tua 18 mis ar gyfartal.

Ecoleg a chadwraeth

[golygu | golygu cod]

Er bod amryw o famaliaid yn gweud defnydd o dir ȃr, dim ond llygoden yr ŷd (Micromys minutus) a’r ysgyfarnog (Lepus europaeus) sydd yn dibynnu’n agos iawn arno. Ystyrir bod llygoden yr ŷd ‘mewn peryg’ yng Nghymru, ac mae amcanion o boblogaeth yr ysgyfarnog yn dangos gostyngiad o >80% dros y ganrif aeth heibio, gyda’r gostyngiad yn fwy na welwyd mewn ardaloedd eraill o’r DU. Digwyddodd y gostyngiad mwyaf rhwng 1961 a 2009, gyda cholli clytiau o dir ȃr o fewn y tirlun cynyddol o dir pori yn rhannol gyfrifol mae’n debyg [2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Harvest Mouse" Archifwyd 2021-01-16 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 23 Chwefror 2021
  2. Hurford, C (2025) Fferm a Thyddyn, rhif 76 (2025), tud. 6-9
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.