Llygoden fronfelen
Llygoden fronfelen | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Muridae |
Genws: | Apodemus |
Rhywogaeth: | A. flavicollis |
Enw deuenwol | |
Apodemus flavicollis Melchior, 1834 | |
![]() | |
Dosbarthiad daearyddol |
Mamal bach o drefn y cnofilod (Rodentia) yw Llygoden fronfelen (Apodemus flavicollis). Mae i'w gael ledled y rhan fwyaf o Ewrop. Mae'n gyffredin yn ne Lloegr a dwyrain Cymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1] Mae'n debyg iawn i lygoden y coed ond mae ganddi stribedyn o ffwr melynaidd o amgylch ei gwddf.
Maen nhw'n byw mewn coedwigoedd, ac maen nhw'n ddringwyr da sy'n cripian trwy goed a llwyni. Maen nhw'n weithgar yn y nos gan chwilio am am eu bwyd – cnau, blagur, egin, ffrwythau ac weithiau pryfed. Nid ydynt yn gaeafgysgu.
Mae rhieni'n magu sawl torllwyth yn ystod tymor, ond ychydig o oedolion fydd yn goroesi o un haf i'r nesaf.
Mae eu hysglyfaethwyr yn cynnwys llwynogod, gwencïod a thylluanod.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Yellow Necked Mouse", Gwefan The Mammal Society; adalwyd 8 Mai 2021