Llygoden y coed
| Llygoden y coed | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Rodentia |
| Teulu: | Muridae |
| Genws: | Apodemus |
| Rhywogaeth: | A. sylvaticus |
| Enw deuenwol | |
| Apodemus sylvaticus Linnaeus, 1758 | |
| Dosbarthiad daearyddol | |
Llygoden fach frown dywyll o Ewrasia gyda chynffon hir a llygaid mawr yw llygoden y coed neu’r maes (Apodemus sylvaticus). Mae i'w gael ledled y rhan fwyaf o Ewrop. Mae'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1]
Maen nhw'n weithgar yn y nos ar y cyfan. Maen nhw'n byw mewn coedwigoedd, glaswelltiroedd a thir amaeth, ond maen nhw'n chwilio am ardaloedd mwy coediog yn y gaeaf a gallant fyw mewn adeiladau yn ystod tymhorau garw. Maen nhw'n tyllu ac yn adeiladu nythod gyda deunydd planhigion.
Yn gyffredinol, maen nhw'n bwyta hadau, yn enwedig hadau o goed fel derw, ffawydd, ynn, Pisgwydd, draenen wen a masarn. Os oes digon o hadau, maen nhw'n eu cludo yn ôl i'w tyllau i'w storio. Gallant hefyd fwyta malwod a phryfed, yn enwedig ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf pan fydd llai o hadau ar gael. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn byddan nhw'n bwyta aeron, ffrwythau, ffyngau a gwreiddiau.
Nid ydynt yn gaeafgysgu; fodd bynnag, yn ystod gaeafau caled gallant syrthio i gyflwr torpid.
Mae rhieni'n magu sawl torllwyth yn ystod tymor, ond ychydig o oedolion fydd yn goroesi o un haf i'r nesaf.
Mae eu hysglyfaethwyr yn cynnwys llwynogod, gwencïod, tylluanod a chathod. Mae llygod coed yn ysglyfaeth bwysig i dylluanod brych; pan fydd eu niferoedd yn isel, gall tylluanod fethu bridio.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wood Mouse" Archifwyd 2021-05-07 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 7 Mai 2021