Lluís Companys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lluís Companys
Lluis Companys.jpg
Ganwyd 21 Mehefin 1882 Edit this on Wikidata
El Tarròs Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Hydref 1940 Edit this on Wikidata (58 oed)
Achos: dienyddiad gan griw saethu Edit this on Wikidata
Montjuïc Castle Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Barcelona
Galwedigaeth gwleidydd, cyfreithiwr, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swydd Arlywyddion Catalwnia, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, cynghorydd tref Barcelona, Q11924567, Q35791321, Arlywyddion Catalwnia, cynghorydd tref Barcelona, Member of the Cortes republicanas, Member of the Cortes republicanas, Q15895305, President of the Parliament of Catalonia, Chairman of Republican Left of Catalonia, Chairman of Republican Left of Catalonia Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Esquerra Republicana de Catalunya Edit this on Wikidata
Priod Carme Ballester i Llasat, Q43458756 Edit this on Wikidata
Plant Lluís Companys i Micó Edit this on Wikidata
Cofeb Companys yn ninas Barcelona.

Gwleidydd a chenedlaetholwr Catalanaidd oedd Lluís Companys i Jover (21 Mehefin 1882 - 14 Hydref 1940). Roedd yn arweinydd y blaid Esquerra Republicana de Catalunya, ac yn Arlywydd y Generalitat de Catalunya o 1934 hyd ddiwedd Rhyfel Cartref Sbaen.

Ganed ef ym mhentref El Tarròs, ger Tornabous. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Barcelona, a dechreuodd ymddiddori mewn gwleidyddiaeth adain-chwith; roedd yn un o sylfaenwyr Solidaridad Catalana. Pan sefydlwyd yr Esquerra Republicana de Catalunya yn 1931, roedd yn un o'r aelodau mwyaf blaenllaw. Ar 19 Rhagfyr 1932 etholwyd ef yn Arlywydd cyntaf Senedd Catalonia. Wedi marwolaeth Francesc Macià, daeth yn Arlywydd y Generalitat ar 1 Ionawr 1934. Ar 6 Hydref, 1934, arweiniodd Companys wrthryfel Catalanaidd yn erbyn llywodraeth Sbaen, a chyhoeddodd geadigaeth gwladwriaeth Gatalanaidd. Dedfrydwyd ef i 30 mlynedd o garchar, ond rhyddhawyd ef wedi i'r Frente Popular adain-chwith ennill etholiad 1936.

Pan ddechreuodd Rhyfel Caretref Sbaen, cefnogodd Compays y Weriniaeth yn erbyn lluoedd Francisco Franco. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid iddo ffoi i Ffrainc, lle bu hyd nes i Ffrainc gael ei meddiannu gan yr Almaen yn 1940. Cymerwyd Companys i'r ddalfa gan y Gestapo, a'i drosglwyddo i lywodraeth Franco. Dienyddiwyd ef yng Nghastell Montjuïc, Barcelona.

Enwyd y prif stadiwm a ddefnyddiwyd ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1992 ar Montjuïc ar ôl Companys. Defnyddir y stadiwm yn awr gan dîm pêl-droed Espanyol.