Lecwydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lecwydd
The Green, Leckwith, Cardiff. - geograph.org.uk - 368049.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.472°N 3.209°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jane Hutt (Llafur)
AS/au Alun Cairns (Ceidwadwr)
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ym Mro Morgannwg; am yr ardal o'r un enw yng Nghaerdydd, gweler Lecwydd, Caerdydd.

Pentref yn nwyrain Bro Morgannwg yw Lecwydd (Saesneg: Leckwith).

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Credir bod yr enw yn deillio o ffurf fer ar yr enw personol Helygwydd (ar Helygwydd/Helycwydd cymharer Tegwyn/Tecwyn). Ni wyddys pwy oedd Helygwydd, ond gall mai sant o Gymro ydoedd. Ystyr yr enw fyddai '[man sy'n eiddo i] Helygwydd'.[3]

Gwelir weithiau y ffurfiau Llechwydd a Llechwedd mewn ffynonellau Cymraeg o'r 19g. Honnid bod yr enw Llechwedd yn cyfeirio at y llethr serth sy'n codi o lan orllewinol afon Elái ym mhlwyf Lecwydd, ac mai ffurf ar Llechwedd oedd Lecwydd.[4] Ond nid oes modd olrhain cyswllt ieithyddol rhwng Lecwydd a llechwedd ac mae'n debyg fod y ffurf Llechwedd yn enghraifft o darddiad gwerin.[5] Er hynny, mae'r esboniad hwn yn dal i'w weld mewn rhai mannau.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwynedd O. Pierce, The Place-names of Dinas Powys Hundred. Cardiff: University of Wales Press, 1968 ISBN 0-7083-0338-2, tt. 49–52.
  4. Er enghraifft, Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales, cyf. 2 (London, 1840). Gw. hefyd Owen Jones, Cymru: Yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol (London: Blackie & Son, 1875), t. 188.
  5. Dywedir am yr enw Leckwith: 'popularly believed to be W(elsh) llechwedd 'slope' ', yn Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Llandysul, 2007), t. 212.
  6. Er enghraifft, Cyngor Caerdydd, 'Dyffryn Elái: Teithiau Cerdded Traws-ffiniol, Parc Trelái i Goedwig Lecwydd'; gwelwyd 10 Chwefror 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]