Latham & Watkins LLP

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Logo'r Cwmni

Mae Latham & Watkins LLP yn un o gwmniau cyfreithwyr mwyaf y byd, yn cyflogi dros 2,100 o gyfreithwyr yn yr Unol Daleithiau (UDA), Ewrop, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell. Dechreuwyd y cwmni yn Los Angeles yn 1934, ond mae ei swyddfa fwyaf yn Efrog Newydd.

Ar hyn o bryd mae gan y cwmni swyddfeydd yn Abu Dhabi, Barcelona, Brussels, Chicago, Dubai, Doha, Frankfurt, Hamburg, Hong Cong, Llundain, Los Angeles, Madrid, Milan, Moscow, München, Newark, New Jersey, Efrog Newydd, Costa Mesa, Paris, San Diego, San Francisco, Shanghai, Silicon Valley, Singapôr, Tokyo a Washington D.C.

Yn 2008, Latham & Watkins oedd y cwmni cyfreithwyr cyntaf yn hanes UDA i gyhoeddi incwm o dros $2 biliwn o ddoleri.