Kenneth Bowen

Oddi ar Wicipedia
Kenneth Bowen
GanwydKenneth John Bowen Edit this on Wikidata
3 Awst 1932 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 2018 Edit this on Wikidata
Cheltenham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharweinydd, athro, canwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Math o laistenor Edit this on Wikidata

Canwr tenor, arweinydd ac athro o Gymro oedd Kenneth John Bowen (3 Awst 19321 Medi 2018).[1]

Ganwyd Bowen yn Llanelli. Gwnaeth ei radd BA ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a gradd MA cerddoriaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt.

Yn y 1960au enillodd nifer o wobrau cerdd a pherfformiodd ar lwyfannau yng Nghymru, Lloegr ac ar draws y byd. Bu'n perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyson gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Opera a'r English National Opera. Rhwng 1987 a 1981 roedd yn bennaeth ar Astudiaethau Llais yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ymddeolodd o waith llawn amser yn 1988. Rhwng Chwefror 1983 a Rhagfyr 2008 roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd Corâl Cymru Llundain.[2]

Yn 2003 cafodd radd anrhydeddus o Ddoethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Angela Mary yn 1959 a chawsant ddau fab.[1] Mae ei fab Geraint yn gyd-gyfarwyddwr artistig y Three Choirs Festival yn Lloegr. Mae ei fab Meurig yn ysgrifennu am gerddoriaeth, ac yn gyn-gyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Cheltenham.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]