Joséphine de Beauharnais

Oddi ar Wicipedia
Joséphine de Beauharnais
Portread o'r Ymerodres Joséphine yn Malmaison yn 1801, gan François Gérard
Ganwyd23 Mehefin 1763 Edit this on Wikidata
Les Trois-Îlets Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mai 1814 Edit this on Wikidata
o difftheria Edit this on Wikidata
Rueil-Malmaison Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethcasglwr celf, drafftsmon, arlunydd, noddwr y celfyddydau Edit this on Wikidata
TadJoseph-Gaspard de Tascher de La Pagerie Edit this on Wikidata
MamRose Claire Des Vergers de Sannois Edit this on Wikidata
PriodNapoleon I, Alexandre de Beauharnais Edit this on Wikidata
PlantEugène de Beauharnais, Hortense de Beauharnais Edit this on Wikidata
LlinachDuc de Dalberg Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Frenhines Maria Luisa Edit this on Wikidata

Roedd Joséphine Bonaparte (ganwyd Marie Josèphe Rose Tascher de La Pagerie; 23 Mehefin 1763 – 29 Mai 1814) yn Ymerodres y Ffrancwyr fel gwraig gyntaf yr Ymerawdwr Napoleon I. Caiff ei hadnabod yn aml fel Joséphine de Beauharnais.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Les Trois-Îlets, Martinique, i deulu cyfoethog o Ffrainc a oedd yn berchen ar blanhigfa siwgr a ddefnyddiodd llafur caethweision. Hi oedd merch hynaf Joseph-Gaspard Tascher de La Pagerie (1735–1790) a'i wraig Rose-Claire des Vergers de Sannois (1736–1807).

Priododd Joséphine ei gŵr cyntaf, y milwr Alexandre de Beauharnais, a ddaeth yn gadlywydd yn hwyrach, ym 1779. Fe'i ddienyddiwyd ef gan y gilotîn yn 1794, yn ystod y cyfnod o'r Chwyldro Ffrengig a elwir yn Deyrnasiad Braw. Carcharwyd Joséphine yn hen fynachdy Carmes am bum niwrnod ar ôl dienyddiad ei gŵr.

Derbyniodd Joséphine nifer o lythyrau caru a ysgrifennwyd gan Napoleon; mae llawer ohonynt yn dal i fodoli. Am na chafodd blant â Napoleon, fe dirymwyd eu priodas ganddo ef ym 1810, ac fe briododd ef Marie-Louise o Awstria.

Fel noddwr celf, gweithiodd Joséphine yn agos gyda cherflunwyr, arlunwyr ac addurnwyr mewnol i ddatblygu arddull unigryw, "le style Empire" ('arddull yr Ymerodraeth'; hynny yw, yr ymerodraeth Ffrengig gyntaf) yn y Château de Malmaison, ger Afon Seine yn Île-de-France. Roedd y château yn enwog am ei gardd rosod, y bu Joséphine yn ei goruchwylio'n agos.

Disgynyddion a pherthnasau[golygu | golygu cod]

Trwy ei phlant gyda Beauharnais, Joséphine oedd nain Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc yn ystod yr Ail Ymerodraeth, ac Amélie o Leuchtenberg, ymerodres Brasil. Mae aelodau o deuluoedd brenhinol presennol Sweden, Denmarc, Gwlad Belg a Norwy, ac hefyd teulu archddugol Lwcsembwrg, yn disgyn ohoni.

Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli, a boddwyd Adeline Coquelin, nith deuddeg oed Joséphine. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.