José de San Martín

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
José de San Martín
José de San Martín (retrato, c.1828).jpg
Ganwyd 25 Chwefror 1778 Edit this on Wikidata
Yapeyú, Corrientes Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Awst 1850 Edit this on Wikidata (72 oed)
Boulogne-sur-Mer Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaeth person milwrol, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd President of Peru, Governor of Mendoza, list of commanders-in-chief of the Chilean Army Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Patriot Edit this on Wikidata
Tad Juan D' San Martin y Gómez Edit this on Wikidata
Mam Gregoria Matorras, Rosa Guarú Edit this on Wikidata
Priod María de los Remedios de Escalada Edit this on Wikidata
Plant Mercedes Tomasa San Martín y Escalada Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd yr Haul, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Genedlaethol San Marcos Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma José de San Martín.svg

Cadfridog Archentaidd oedd José Francisco de San Martín y Matorras (25 Chwefror 177817 Awst 1850)[1] a oedd yn brif arweinydd rhyfeloedd annibyniaeth yr Ariannin, Tsile, a Pheriw oddi ar Ymerodraeth Sbaen.

Ganwyd yn Yapeyú, Rhaglawiaeth Río de la Plata, a leolir heddiw yn Nhalaith Corrientes, yr Ariannin. Symudodd gyda'i deulu i Sbaen yn 1783, ac ymunodd â'r fyddin yn 11 oed. Brwydrodd yn erbyn lluoedd Napoléon yn Rhyfel Iberia o 1808 i 1811.

Aeth i Buenos Aires yn 1812 ac ymunodd â Thaleithiau Unedig Río de la Plata yn y chwyldro yn erbyn Ymerodraeth Sbaen. Enillodd fuddugoliaeth yn erbyn y Sbaenwyr ym Mrwydr San Lorenzo (1813), ac arweiniodd Fyddin y Gogledd yn 1814. Cynlluniodd i drechu lluoedd Sbaen drwy sefydlu byddin i groesi'r Andes ac ymosod arnynt ar hyd arfordir y Cefnfor Tawel. Enillodd Tsile ei hannibyniaeth yn sgil brwydrau Chacabuco a Maipú (1818).

Arweiniodd San Martín lynges i ymosod ar luoedd Sbaen yn Rhaglawiaeth Periw. Yn sgil buddugoliaeth yn Lima yn 1821, penodwyd San Martín yn Amddiffynnydd Periw. Bu'n cwrdd â Simón Bolívar ar 22 Gorffennaf 1822 yn Guayaquil, Ecwador, a chymerodd Bolívar yr awennau yn chwyldro Periw. Ymddeol o'r fyddin a wnaeth San Martín, ac ymfudodd i Ffrainc yn 1824. Bu farw yn Boulogne-sur-Mer yn 72 oed.

San Martín yw un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin a Pheriw, ac un o Libertadores De America. Enwir yr anrhydedd uchaf a wobrwyir gan lywodraeth yr Ariannin, Urdd y Cadfridog San Martín, ar ei ôl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) José de San Martín. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2019.