Jon Fosse

Oddi ar Wicipedia
Jon Fosse
Jon Fosse yn Stavanger yn 2007.
GanwydJon Olav Fosse Edit this on Wikidata
29 Medi 1959 Edit this on Wikidata
Haugesund Municipality Edit this on Wikidata
Man preswylGrotten, Hainburg an der Donau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
AddysgCandidatus philologiæ Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bergen Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, bardd, cyfieithydd, ysgolhaig llenyddol, ysgrifennwr, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
PriodGrethe Fatima Syéd, Anna Fosse Edit this on Wikidata
Gwobr/auNynorsk Literature Prize, Sokneprest Alfred Andersson-Ryssts fond, Gwobr Aschehoug, Gwobr anrhydeddus Brage, Gwobr Nordig Academi Sweden, Gwobr Ryngwladol Ibsen, European Prize for Literature, honorary doctor of the University of Bergen, Gwobr Brage, Gwobr Lenyddol Nobel, Cadlywydd Urdd Sant Olaf, Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol Edit this on Wikidata

Dramodydd, nofelydd ac awdur straeon byrion, bardd, ac ysgrifwr Norwyaidd yn yr iaith Norwyeg yw Jon Olav Fosse (ganed 29 Medi 1959). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 2023 "am ei ddramâu a rhyddiaith ddyfeisgar sy'n rhoi llais i'r hyn ni ellir ei dweud".[1]

Ganed ef yn Haugesund ar arfordir gorllewin Norwy, a chafodd ei fagu yn Strandebarm. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Raudt, svart, ym 1983. Un o'i weithiau rhyddiaith enwocaf ydy'r Septologien, saith rhan mewn tair cyfrol (2019–21), a enwebwyd ar gyfer Gwobr Ryngwladol Booker yn 2022.

Dechreuodd ysgrifennu dramâu yn y 1990au, a'r un gyntaf ganddo i'w pherfformio ar y llwyfan oedd Og aldri skal vi skiljast, yn Bergen ym 1994. Daeth i'r amlwg ym myd y theatr wedi i'r Ffrancwr Claude Régy gyfarwyddo'r ddrama gyntaf a ysgrifennodd Fosse, Nokon kjem til å komme, yn Nanterre ym 1999. Ymhen ugain mlynedd, ysgrifennai mwy na 30 o ddramâu i gyd, a pherfformir ei waith yn amlach nag unrhyw ddramodydd Norwyaidd arall, ac eithrio Henrik Ibsen.[2]

Fosse yw'r pedwerydd awdur Norwyeg i dderbyn Gwobr Lenyddol Nobel, ar ôl Bjørnstjerne Bjørnson (1903), Knut Hamsun (1920), a Sigrid Undset (1928). Fodd bynnag, Fosse ydy'r enillydd cyntaf i ysgrifennu yn y ffurf Nynorsk;[3] ysgrifennai Bjørnson, Hamsun ac Undset mewn Riksmaal (rhagflaenydd bokmål), iaith lenyddol a oedd yn debycach o lawer i'r hen Ddano-Norwyeg nac i iaith y werin. Fosse hefyd ydy'r dramodydd cyntaf i ennill y wobr ers Harold Pinter yn 2005.[3]

Mae Fosse yn byw yn Awstria ac yn Norwy. Trodd yn Gatholig yn 2013.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 2023", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 5 Hydref 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Ella Creamer, "Jon Fosse wins the 2023 Nobel prize in literature", The Guardian (5 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Hydref 2023.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Philip Oltermann,"Jon Fosse’s Nobel prize announces his overdue arrival on the global stage", The Guardian (5 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Hydref 2023.