Sigrid Undset

Oddi ar Wicipedia
Sigrid Undset
Ganwyd20 Mai 1882 Edit this on Wikidata
Kalundborg Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 1949 Edit this on Wikidata
Lillehammer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Fru Ragna Nielsens skole Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, rhyddieithwr, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amKristin Lavransdatter, Jenny, The Master of Hestviken Edit this on Wikidata
Arddullnofel hanesyddol Edit this on Wikidata
TadIngvald Undset Edit this on Wikidata
MamCharlotte Undset Edit this on Wikidata
PriodAnders Castus Svarstad Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Order of the Falcon Edit this on Wikidata

Roedd Sigrid Undset (20 Mai 188210 Mehefin 1949) yn nofelydd yn yr iaith Norwyeg, a aned yn Kalundborg, Denmarc.

Archaeolegwr nodedig oedd ei thad ac mae'n debyg mai trwyddo fo y daeth i ymddiddori yn hanes Norwy yn yr Oesoedd Canol. O 1899 ymlaen gweithiodd mewn swyddfa yn Oslo ac mae'r problemau a wynebai merched ifanc cyfoes yn sail i'w nofelau cynnar, yn cynnwys Jenny (1912).

Bjaerkebek, Lillehammer, cartref Sigrid Undset

Mae ei champwaith, Kristin Lavransdatter (3 cyfrol, 1920-1922) yn nofel hanesyddol graffig a realistaidd am gariad a chrefydd yn Norwy'r 14g. Fe'i dilynwyd gan Olav Audunssön (4 cyfrol, 1925-1927), Gymadenia (1929) a Den trofaste hustru ("Y cymar ffyddlon", 1936).

Troes i Gatholigaeth yn 1924, ac wedi hynny dyfnhaodd dyfnder ysbrydol ei gwaith. Dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddi yn 1928.