Knut Hamsun

Oddi ar Wicipedia
Knut Hamsun
Ffotograff o Knut Hamsun ym 1927.
GanwydKnut Pedersen Hamsun Edit this on Wikidata
4 Awst 1859 Edit this on Wikidata
Vågå, Norwy, Lom Municipality Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 1952 Edit this on Wikidata
Grimstad Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, nofelydd, dramodydd, critig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHunger, Growth of the Soil Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadArthur Schopenhauer, Bjørnstjerne Bjørnson, George Gordon Byron, August Strindberg, Friedrich Nietzsche, Fyodor Dostoievski Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNasjonal Samling Edit this on Wikidata
Mudiadrhamantiaeth-newydd Edit this on Wikidata
PriodMarie Hamsun, Bergljot Bech Edit this on Wikidata
PlantArild Hamsun, Ellinor Hamsun, Tore Hamsun, Victoria Hamsun Charlesson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://hamsunsenteret.no/en/ Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor Norwyaidd yn yr iaith Norwyeg oedd Knut Hamsun (4 Awst 185919 Chwefror 1952) a fu'n unigolydd pybyr ac yn un o brif ladmeryddion neo-Ramantiaeth a realaeth newydd yn llên Norwy. Bu'n enwog yn bennaf am ei nofelau, gan gynnwys Markens Grøde (1917), yr hon a enillai Wobr Lenyddol Nobel iddo ym 1920.[1] Ysgrifennodd hefyd ddramâu, barddoniaeth, straeon byrion, ac ysgrifau a rhyddiaith ffeithiol.

Ganed Knud Pedersen yn Lom, yn rhanbarth Gudbrandsdalen, Norwy, a oedd ar y pryd yn rhan o Deyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy. Gwerinwyr oedd ei deulu, a chafodd ei fagu yn Hamarøy, tref anghysbell yn Nordland o fewn Cylch yr Arctig. Prin y cafodd unrhyw addysg ffurfiol yn ystod blynyddoedd ei fachgendod a'i arddegau, ond câi cyfoeth naturiol ac harddwch y dirwedd argraff barhaol ar ei ysbryd. Aeth yn brentis i grydd yn Bodø, Nordland, ac yno, yn 19 oed, dechreuodd ysgrifennu yn ei amser rhydd. Yn ystod y ddeng mlynedd ddilynol, enillodd ei damaid fel llafurwr ysbeidiol, ac ar ei deithiau i Unol Daleithiau America gweithiodd mewn sawl swydd dros dro yn Chicago, Gogledd Dakota, a Minneapolis.[2]

Ym 1888 cyhoeddwyd, yn ddi-enw, y rhan gyntaf o Sult, nofel seicolegol a lled-hunangofiannol a fyddai'n cael ei chyhoeddi yn ei chyfanrwydd ym 1890. Daeth i'r amlwg yn syth ar draws gwledydd Llychlyn am yr ymdrech gynnar hon, nofel sydd yn nodi troad yn hanes llên Norwy oddi ar yr hen realaeth gymdeithasol a thra-naturiolaeth. Llwyddiant ariannol a beirniadol ydoedd, a dilynodd Hamsun gyda chyfres o ddarlithoedd llenyddol, yn mynegi ei edmygedd o August Strindberg a'i feirniadaeth o Henrik Ibsen a Leo Tolstoy. Byddai cymeriadau llais-cyntaf ei nofelau cynnar eraill, gan gynnwys ei weithiau amlycaf, Mysterier (1892), Pan (1894), a Victoria (1898), o'r un farn â'r awdur yn nhermau ei ddiffyg ymddiriedaeth mewn datblygiadau technolegol a chynnydd cymdeithasol yr oes. Nodwedd hollbresennol yn ei waith yw'r unigolyddiaeth danbaid a argraffid ar ei feddwl gan Friedrich Nietzsche a Strindberg.

Tua 1913, cychwynnodd yr ail gyfnod o awduraeth Hamsun a gydnabuwyd gan y beirniaid. Wedi hynny, traethir ei nofelau yn y trydydd llais, gan ymwneud â nifer o gymeriadau.[3] Yn ei gampwaith Markens Grøde (1917), mynegir ei athroniaeth gyntefig dros ddychwelyd i natur a'r bywyd amaethyddol, gan droi cefn ar fodernedd. Ymhlith ei nofelau eraill o'i gyfnod diweddarach mae triawd y cymeriad August: Landstrykere (1927), August (1930), a Men Livet lever (1933).

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, datganodd Hamsun ei gefnogaeth i'r Almaen Natsïaidd, a fu'n meddiannu Norwy o 1940 i 1945. Wedi'r rhyfel, cafodd ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth a'i garcharu, ond lleihawyd ei gosb oherwydd ei oedran. Fe'i cafwyd yn euog o gydweithio â'r Natsïaid, a derbyniodd ddirwy a fyddai'n ei ddifetha yn ariannol.[2]

Gwnaethpwyd difrod mawr i enw Hamsun yn ei famwlad o ganlyniad i'w weithredoedd yn ystod y rhyfel. Er gwaethaf, derbyniodd glod yn ei flynyddoedd olaf am ei gyfrol Paa gjengrodde Stier (1949), nofel hunangofiannol fer sydd yn cyfuno dyddiadur natur ag atgofion o'i achos llys, gan gyfleu rhyw fath o amddiffyniad o'i daliadau. Bu farw Knut Hamsun ym maenordy Nørholm, ar gyrion Grimstad, yn 92 oed.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Sult (1890).
  • Mysterier (1892).
  • Redaktør Lynge (1893).
  • Ny Jord (1893).
  • Pan (1894).
  • Victoria. En kjærlighedshistorie (1898).
  • Sværmere (1904).
  • Stridende Liv. Skildringer fra Vesten og Østen (1905).
  • Den sidste Glæde (1912).
  • Børn av Tiden (1913).
  • Segelfoss By (1915).
  • Markens Grøde (1917).
  • Konerne ved (1920).
  • Siste Kapitel (1923).
  • Landstrykere (1927).
  • August (1930).
  • Men Livet lever (1933).
  • Ringen sluttet (1936).
  • Paa gjengrodde Stier (1949).

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • Ved Rigets Port (1895).
  • Livets Spil (1896).
  • Aftenrøde. Slutningspil (1898).
  • Munken Vendt (1902).
  • Dronning Tamara (1903).
  • Livet i Vold (1910).

Casgliadau o straeon byrion[golygu | golygu cod]

  • Siesta (1897).
  • Kratskog (1903).

Llythyrau[golygu | golygu cod]

  • Knut Hamsuns brev, 6 chyfrol (1994–2001).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1920", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Knut Hamsun. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2021.
  3. (Saesneg) "Knut Hamsun" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 29 Tachwedd 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Robert Ferguson, Enigma: The Life of Knut Hamsun (Efrog Newydd: Farrar, Straus & Giroux, 1987).