Bjørnstjerne Bjørnson
Bjørnstjerne Bjørnson | |
---|---|
Ganwyd | Bjørnstjerne Martinius Bjørnson 8 Rhagfyr 1832 Kvikne |
Bu farw | 26 Ebrill 1910 Paris |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, dramodydd, llenor, newyddiadurwr, rhyddieithwr, gwleidydd |
Tad | Peder Bjørnson |
Mam | Inger Elise Nordraach |
Priod | Karoline Bjørnson |
Plant | Bergliot Ibsen, Bjørn Bjørnson, Erling Bjørnson, Dagny Bjørnson Sautreau, Einar Bjørnson, Anders Underdal |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel |
llofnod | |
Llenor, golygydd, areithydd, a chyfarwyddwr theatr Norwyaidd oedd Bjørnstjerne Martinius Bjørnson (8 Rhagfyr 1832 – 26 Ebrill 1910) sy'n nodedig fel un o brif ffigurau llên Norwy yn y 19g, ynghyd â Henrik Ibsen, Alexander Kielland, a Jonas Lie. Ysgrifennodd farddoniaeth, dramâu, nofelau, a newyddiaduraeth. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1903 am "ei farddoniaeth aruchel, godidog ac amlochrog, a neilltuir bob amser gan newydd-deb ei hysbrydoliaeth a choethder eithriadol ei hysbryd".[1] Cenir ei gerdd “Ja, vi elsker dette landet” yn eiriau anthem genedlaethol Norwy.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Bjørnstjerne Martinius Bjørnson ar 8 Rhagfyr 1832 yn Kvikne. pentref yn swydd Hedmark, Teyrnasoedd Unedig Norwy a Sweden. Roedd yn fab i weinidog, a chafodd ei fagu yng nghymuned ffermio Romsdalen.[2]
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Dylanwadwyd arno gan draddodiadau a diwylliant gwerin Norwy, a defnyddiodd yr hen sagâu yn sail i'w ddramâu a bywyd gwledig Romsdalen yn gefndir i'w nofelau.
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Bu farw ym Mharis, Ffrainc, ar 26 Ebrill 1910 yn 77 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1903", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Bjørnstjerne Martinius Bjørnson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2019.