Naturiolaeth (llenyddiaeth)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Raquin.jpg
Thérèse Raquin, nofel naturiolaethol gan Émile Zola
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmudiad llenyddol Edit this on Wikidata
MathNaturiolaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad llenyddol a fu ar ei anterth ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g, yn Ffrainc yn enwedig, yw naturiolaeth sydd yn arddel penderfyniaeth, gwrthrychedd foesol, sylwebaeth gymdeithasol, a golygwedd wyddonol ar ffuglen. Datblygodd dan ddylanwad Émile Zola yn bennaf, fel estyniad i realaeth lenyddol yn ei nod o gynrychioli'r byd mewn rhyddiaith ffyddlon ac annethol, ac i gyflwyno talp o fywyd go iawn i'r darllenydd heb farn yr awdur. Ceisiai'r naturiolwyr addasu egwyddorion a methodoleg y gwyddorau naturiol, yn enwedig Darwiniaeth, at lenyddiaeth, a chelfyddydau eraill hefyd. O ganlyniad i'r benderfyniaeth wyddonol sydd yn nodweddu naturiolaeth, byddent yn pwysleisio natur ffisiolegol dyn, a'i amgylchiadau damweiniol, yn hytrach na'i arweddau moesol a rhesymegol.

Sail ddamcaniaethol y mudiad oedd dull y beirniad Hippolyte Taine o drin llenyddiaeth yn ôl cyflwr y byd naturiol. Yr esiampl gyntaf o nofel "wyddonol", mae'n debyg, oedd Germinie Lacerteux (1865) gan y brodyr Edmond a Jules de Goncourt, stori ddidrugaredd am ferch sydd yn dioddef nymffomania. Fel rheol, ystyrir yr ysgrif "Le Roman expérimental" (1880) gan Émile Zola yn ddogfen sefydlu'r mudiad.[1] Ymhlith y llenorion a ysgrifennai yn unol â'r egwyddorion a luniwyd gan Zola bu'r Ffrancwr Joris-Karl Husymans, yr Almaenwr Gerhart Hauptmann, y Swediad August Strindberg, a'r Portiwgaliad José Maria Eça de Queirós.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Naturalism (art). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2021.