Dano-Norwyeg

Oddi ar Wicipedia
Dano-Norwyeg
Enghraifft o'r canlynoliaith koiné Edit this on Wikidata
Mathieithoedd Germanaidd Gogleddol Edit this on Wikidata
GwladwriaethNorwy Edit this on Wikidata

Iaith gyffredin a chymysgiaith o'r Ddaneg a'r Norwyeg, y ddwy ohonynt yn ieithoedd Germanaidd Gogleddol, yw Dano-Norwyeg (dansk-norsk) a ddatblygodd ymhlith uchelwyr yn ninasoedd Norwy yn y 18g ac a barhaodd trwy gydol y 19g. Daeth y ffurf ieithyddol hon i'r amlwg yng nghyfnod diweddar Denmarc–Norwy, pan oedd Daneg yn iaith swyddogol y deyrnas, a pharhaodd y Ddaneg yn brif iaith ysgrifenedig Norwy er i'r wlad honno arwahanu oddi ar Ddenmarc ac uno â Sweden ym 1814. Roedd y Ddano-Norwyeg mwy neu lai yn unfath â'r Ddaneg ond ynganiad ei geirfa wedi addasu at yr acen Norwyaidd. Tafodieithoedd Norwyeg lleol oedd iaith y werin ar draws Norwy.

Y frwydr ieithyddol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Ieithoedd Norwy.

Yn sgil twf cenedlaetholdeb Rhamantaidd a'r deffroad diwylliannol yn y 19g, cychwynnwyd dadl ynglŷn ag iaith genedlaethol Norwy. Cytunodd llenorion a ffigurau diwylliannol eraill y wlad bod yn rhaid fabwysiadu ffurf ysgrifenedig ar Norwyeg a oedd yn gwrthod tra-arglwyddiaeth y Ddaneg.

Rhennid y frwydr ieithyddol rhwng y rhai oedd yn dadlau dros greu iaith genedlaethol newydd i'w mabwysiadu ar unwaith, a'r rhai oedd o blaid datblygu Norwyeg ysgrifenedig yn raddol ac yn naturiol. Y prif ladmerydd dros ffurfio safon lenyddol o'r newydd oedd yr ieithydd Ivar Aasen. Cynhyrchodd Aasen Landsmaal ("iaith gwlad"), iaith ysgrifenedig ar sail tafodieithoedd hynafaidd gorllewin Norwy. Ei nod oedd creu ffurf ysgrifenedig a oedd yn debycach i iaith lafar gwlad ac felly'n addas i hyrwyddo llythrennedd, ac o ganlyniad addysg a thaliadau democrataidd, ymhlith y werin. Ar ochr arall y ddadl, rhoddwyd yr enw Riksmaal ("iaith genedlaethol") ar ffurf ysgrifenedig oedd yn debycach i Ddano-Norwyeg ac yn adlewyrchu iaith lafar yr uchelwyr. Dadleuodd yr addysgwr Knud Knudsen dros ddatblygu Norwyeg ysgrifenedig yn raddol ar sail ynganiadau'r dosbarthiadau uchaf, a Riksmaal oedd y ffurf gynnar ar bokmål ("iaith y llyfr"). Dilynwyd esiampl Knudsen gan y mwyafrif o lenorion Norwyaidd, gan gynnwys Bjørnstjerne Bjørnson ac Henrik Ibsen, ac mae eu gweithiau hwy yn debycach o lawer i Ddaneg nac i Norwyeg modern. Ymhlith y rhai i gefnogi achos Landsmaal oedd Aasmund Olafsson Vinje ac Arne Garborg, a mabwysiadwyd y ffurf honno yn iaith lenyddol a elwir yn ddiweddarach yn nynorsk ("Norwyeg newydd").[1]

Ym 1885, pleidleisiodd y Storting, senedd Norwy, dros roddi statws cyfartal i Riksmaal a Landsmaal mewn dogfennau llywodraethol a defnyddiau swyddogol eraill. Yn 1892, rhoddwyd hawl i bob ardal ysgol yn Norwy benderfynu pa ffurf ar yr iaith i'w defnyddio yn yr ysgol leol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jan Sjåvik, Historical Dictionary of Norway (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2008), tt. 123–25.