Ivar Aasen

Oddi ar Wicipedia
Ivar Aasen
Ganwyd5 Awst 1813 Edit this on Wikidata
Ørsta Municipality Edit this on Wikidata
Bu farw23 Medi 1896 Edit this on Wikidata
Christiania Edit this on Wikidata
Man preswylMøre og Romsdal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithegydd, geiriadurwr, ieithydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, botanegydd, bardd, cyfieithydd y Beibl, cymrodoriaeth, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Ivar Andreas Aasen, (5 Awst 181323 Medi 1896) yn ieithegwr, geiriadurwr a llenor Norwyaidd, a aned yn Ørsta yn fab i Ivar Jonsson, gwerinwr tlawd.

Roedd yn genedlaetholwr driw, ac ef oedd creawdwr iaith genedlaethol o'r enw landsmålet (Nynorsk Norwyeg newydd), yn seiliedig ar dafodieithoedd Norwyaidd orllewinol. Cyhoeddodd yn 1836 ei fod am gynllunio 'iaith annibynnol a chenedlaethol' wedi selio ar gyfuniad o dafodieithoedd gwledig a oedd yn disgyn o'r Hen Norseg, i gymryd lle'r iaith Dano-Norwyaidd Riksmål (iaith y wlad). Yn y pen draw, enillodd ei iaith newydd gydnabyddiaeth ochr yn ochr â Riksmål ym 1885. Cyhoeddodd Gramadeg y Tafodieithoedd Norwyaidd ym 1848, ac yna Geiriadur y Tafodieithoedd Norwyaidd ym 1850. Bu farw yn Christiania (Oslo), a chladdwyd ef gydag anrhydeddau cyhoeddus[1].

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Aasen ystod eang o ddeunydd, a rhyddhawyd peth ohono ar ôl ei farwolaeth.

Teitl teitl wedi ei gyfieithu Dyddiad cyhoeddi Math Sylwadau
Det norske Folkesprogs Grammatik Gramadeg y Tafodieithoedd Norwyaidd 1848 gramadeg [2]
Ordbog over det norske Folkesprog Geiriadur y Tafodieithoedd Norwyaidd 1850 geiriadur [2]
Symra Symra 1863 Barddoniaeth [2]
I Marknaden Yn y farchnad 1854 Drama [2]
Ervingen Yr etifedd 1855 Drama [2]
Reise-Erindringer og Reise-Indberetninger Atgofion Teithio ac Adroddiadau Teithio 1842-1847 Rhyddiaith golygwyd gan H. Koht (1917)[2]
Skrifter i Samling Ysgrifau, y casgliad 1912 Rhyddiaith 3 cyfrol[2]
Dikting Barddoniaeth 1946 [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chambers Biographical Dictionary, cyfrol 1990, gol Magnus Magnusson tud 1 AASEN, Ivar Andreas (1813-96)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Bredsdorff, E. L. (1954). "Aasen, Ivar Andreas". In Steinberg, S. H. Cassell's Encyclopædia of World Literature. 1: Articles & Biographies: A-H. New York, NY: Funk & Wagnall's Company. LCCN 54001255



Baner NorwyEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Norwyad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.