John Trevor (1596–1673)
John Trevor | |
---|---|
Ganwyd | 1596 |
Bu farw | 1673 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1621-22 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1628-29 Parliament, Member of the 1640-42 Parliament, Member of the Second Protectorate Parliament |
Tad | Sion Trevor |
Mam | Margred Trevanion |
Plant | John Trevor, Anne Trevor |
Piwritan, tirfeddiannwr ystad Trefalun ac Aelod Seneddol oedd John Trevor (ac weithiau, er mwyn gwahaniaethu, John Trevor II; 1596–1673), a ochrai gyda'r Pengryniaid yn Rhyfel Cartref Lloegr. Bu'n AS ar adegau rhwng 1621 a 1659. Roedd yn aelod o'r English Council of State yn ystod Gwerinlywodraeth Lloegr.
Ei dad oedd Sion Trevor (1563–1630), ail fab Sion Trefor (m. 1589), a gododd faenordy Trefalun (neu Drefalyn) yn 1576 ac yno y ganwyd John Trevor. Ei fam oedd Margaret Trevanion (1565-1646). Mab hynaf Sion, ac etifedd yr ystad, oedd Richard Trefor (1558 - 1638) a gafodd bedair o ferched gyda'i wraig Catrin, merch Roesier Puleston o Emral; oherwydd hyn, trosglwyddwyd yr ystad i'w nai, John. Roedd ei dad yn Weinydd y llynges a gwleidydd, yn Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych ac a wnaed yn farchog yn 1619.
Dilyn ôl ei droed wnaeth John Trevor i raddau, gan ddod yn AS dros Grampound, Cernyw yn Nhachwedd 1640. Roedd ei fam yn un o deulu Trevanion, Cernyw, yn ferch i Edmund Hampden (1572-1627) ac Eleanor. Cawsant chwech o blant: John, (1626-1672), Richard (1590-1676), Ralph, Mary (1626-1656), Anne a Jane.[1]
Ochrodd gyda'r Seneddwyr ac ymddengys iddo gynrychioli Gogledd Cymru ar nifer o bwyllgorau am gyfnod, yn Llundain.
Olyniaeth
[golygu | golygu cod]Dilynwyd ef gan ei fab o'r un enw, Syr John Trevor (1626–1672), a oedd hefyd yn AS, ar yr un pryd a'i dad yn ystod Gwerinlywodraeth Lloegr ac a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol yn 1668.
Y teulu Trefor
[golygu | golygu cod]Ceir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):
- Richard Trefor (m. 1614), aelod o Doctors’ Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor ( Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).[2]
- Syr Sion Trefor I (m. 1630), gweinydd y llynges a gwleidydd.
- Syr Sackville Trefor (c.1565-1633), morwr.
- Syr Richard Trefor (1558 - 1638), milwr, gwleidydd a gweinyddwr yn Iwerddon.
- John Trevor (g. c. 1652).
- Syr Thomas Trefor (1572 - 1656), barnwr.
- Syr John Trefor III (1626 - 1672), ysgrifennydd y wladwriaeth.
- Syr Thomas Trefor (1612 - 1676), cyfrifydd y Duchy of Lancaster.
- Richard Trefor (m. 1676), hynafiaethydd .
- Thomas Trefor (1658 - 1750), y barwn Trefor (o Drefalun) 1af, a barnwr.
- Richard Trefor (1707 - 1771), esgob Tyddewi a Durham.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Trefor, Wrecsam
- Ieuan Trefor I - Clerigwr Cymreig oedd Ieuan Trefor I (bu farw 1357), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1346 hyd ei farw yn 1357.
- Ieuan Trefor II - Esgob Llanelwy rhwng 1394 a 1408 ac awdur Cymraeg
- George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr - (1795 – 1869); AS
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ clement-jones.com; adalwyd 12 Chwefror 2017.
- ↑ (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).