John Trevor (1596–1673)

Oddi ar Wicipedia
John Trevor
Ganwyd1596 Edit this on Wikidata
Bu farw1673 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1621-22 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1628-29 Parliament, Member of the 1640-42 Parliament, Member of the Second Protectorate Parliament Edit this on Wikidata
TadSion Trevor Edit this on Wikidata
MamMargred Trevanion Edit this on Wikidata
PlantJohn Trevor, Anne Trevor Edit this on Wikidata

Piwritan, tirfeddiannwr ystad Trefalun ac Aelod Seneddol oedd John Trevor (ac weithiau, er mwyn gwahaniaethu, John Trevor II; 1596–1673), a ochrai gyda'r Pengryniaid yn Rhyfel Cartref Lloegr. Bu'n AS ar adegau rhwng 1621 a 1659. Roedd yn aelod o'r English Council of State yn ystod Gwerinlywodraeth Lloegr.

Ei dad oedd Sion Trevor (1563–1630), ail fab Sion Trefor (m. 1589), a gododd faenordy Trefalun (neu Drefalyn) yn 1576 ac yno y ganwyd John Trevor. Ei fam oedd Margaret Trevanion (1565-1646). Mab hynaf Sion, ac etifedd yr ystad, oedd Richard Trefor (1558 - 1638) a gafodd bedair o ferched gyda'i wraig Catrin, merch Roesier Puleston o Emral; oherwydd hyn, trosglwyddwyd yr ystad i'w nai, John. Roedd ei dad yn Weinydd y llynges a gwleidydd, yn Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych ac a wnaed yn farchog yn 1619.

Dilyn ôl ei droed wnaeth John Trevor i raddau, gan ddod yn AS dros Grampound, Cernyw yn Nhachwedd 1640. Roedd ei fam yn un o deulu Trevanion, Cernyw, yn ferch i Edmund Hampden (1572-1627) ac Eleanor. Cawsant chwech o blant: John, (1626-1672), Richard (1590-1676), Ralph, Mary (1626-1656), Anne a Jane.[1]

Ochrodd gyda'r Seneddwyr ac ymddengys iddo gynrychioli Gogledd Cymru ar nifer o bwyllgorau am gyfnod, yn Llundain.

Olyniaeth[golygu | golygu cod]

Dilynwyd ef gan ei fab o'r un enw, Syr John Trevor (1626–1672), a oedd hefyd yn AS, ar yr un pryd a'i dad yn ystod Gwerinlywodraeth Lloegr ac a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol yn 1668.

Y teulu Trefor[golygu | golygu cod]

Ceir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):

  • Richard Trefor (m. 1614), aelod o Doctors’ Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor ( Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).[2]
  • Syr Sion Trefor I (m. 1630), gweinydd y llynges a gwleidydd.
  • Syr Sackville Trefor (c.1565-1633), morwr.
  • Syr Richard Trefor (1558 - 1638), milwr, gwleidydd a gweinyddwr yn Iwerddon.
  • John Trevor (g. c. 1652).
  • Syr Thomas Trefor (1572 - 1656), barnwr.
  • Syr John Trefor III (1626 - 1672), ysgrifennydd y wladwriaeth.
  • Syr Thomas Trefor (1612 - 1676), cyfrifydd y Duchy of Lancaster.
  • Richard Trefor (m. 1676), hynafiaethydd .
  • Thomas Trefor (1658 - 1750), y barwn Trefor (o Drefalun) 1af, a barnwr.
  • Richard Trefor (1707 - 1771), esgob Tyddewi a Durham.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. clement-jones.com; adalwyd 12 Chwefror 2017.
  2. (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).