John Roberts Williams

Oddi ar Wicipedia
John Roberts Williams
Ganwyd24 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata
Llangybi Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlledwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Newyddiadwr a darlledwr oedd John Roberts Williams (24 Mawrth 1914 - 27 Hydref 2004). Roedd yn frodor o Llangybi yn Eifionydd, Gwynedd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Pwllheli a Choleg y Brifysgol, Bangor. Fel awdur roedd yn adnabyddus dan y ffugenw John Aelod Jones.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei yrfa newyddiadurol gyda'r Herald yng Nghaernarfon. Daeth yn olygydd Y Cymro yn 1942 a parhaodd yn y swydd hyd 1962. Bu'n gyfrifol am gynyddu y gwerthiant yn sylweddol i 27,000 trwy boblogeiddio'r papur.

Fe fu'n gyfrifol am wneud yr ail ffilm Gymraeg ei hiaith sef Yr Etifeddiaeth.

Penodwyd ef yn olygydd newyddion Teledu Cymru pan sefydlwyd y sianel hwnnw, ond yn anffodus ni barhaodd y fenter honno fwy na naw mis. Ar ôl hynny bu'n gynhyrchydd rhaglen newyddion Heddiw i'r BBC cyn dod yn bennaeth adran Gogledd Cymru y BBC ym Mangor yn 1972.

Ar ôl ymddeol yn 1976 gofynnwyd iddo baratoi colofn radio wythnosol, Tros Fy Sbectol ar BBC Radio Cymru. Bu hon yn hynod o boblogaidd ac fe barodd am bron i 29 mlynedd ac hwyrach y cofir ef am y rhaglen hon yn fwy na dim. Yn ogystal roedd yn olygydd Y Casglwr, cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen rhwng 1976 a 1991.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Gwendolen Pugh Roberts yn 1941 ac roedd ganddynt un mab a merch. Bu farw ei wraig yn 1969 a bu farw Williams yng Nghaernarfon yn 2004.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meic Stephens. John Roberts Williams - Longtime editor of 'Y Cymro' and a pioneer of Welsh cinema (en) , Independent.co.ukn, 29 Hydref 2004. Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2016.