John Montagu, 4ydd Iarll Sandwich

Oddi ar Wicipedia
John Montagu, 4ydd Iarll Sandwich
Ganwyd13 Tachwedd 1718 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1792 Edit this on Wikidata
Chiswick Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd, swyddog milwrol, cricedwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Gwladol Adran y Gogledd, Board of Admiralty, Postfeistr Cyffredinol y Deyrnas Unedig, llysgennad, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, ambassador of the Kingdom of Great Britain in the Kingdom of Spain Edit this on Wikidata
TadEdward Montagu Edit this on Wikidata
MamElizabeth Popham Edit this on Wikidata
PriodDorothy Montagu, Martha Ray Edit this on Wikidata
PartnerFanny Murray Edit this on Wikidata
PlantBasil Montagu, John Montagu, William Augustus Montagu, Augusta Montagu, Robert Montagu, Mary Montagu, Edward Montagu Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Olynodd John Montagu, 4ydd Iarll Sandwich, PC, FRS (3 Tachwedd 171830 Ebrill 1792)[1] ei daid, y 3ydd Iarll i Iarllaeth Sandwich, yn 1729, pan oedd ond yn ddeg oed. Daliodd amryw o swyddi milwrol a gwleidyddol yn ystod ei oes, ond mae fwyaf enwog oherwydd i bobl honni mai ef ddyfeisiodd y frechdan, Sandwich yn Saesneg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Addysgwyd yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, treuliodd Montagu cryn dipyn o amser yn teithio, a phan ddychwelodd i Loegr ym 1739 cymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel un o gefnogwyr Dug Bedford. Apwyntiwyd ef yn un o Gomisiynwyr y Forlys o dan arweinyddiaeth Bedford, ac yn Chyrnol yn y Fyddin.

Anfonwyd ef i weinyddu fel plenipotensiwr yn y gyngres yn Breda yn 1746, a fe gariodd ymlaen i gymryd rhan yn nhrafodaethau heddwch Cytundeb Aix-la-Chapelle, a ddaeth i ban ym 1748. Yn Chwefror 1748, daeth e'n Arglwydd Cyntaf y Forlys, a ddailiodd y swydd hyd Mehefin 1751. Yn Awst 1753, daeth Sandwich yn un o brif Ysgrifenyddion Gwladol, a cymerodd ran arweiniol yn erledigaeth John Wilkes am enllib aflan, er ei fod wedi ymwneud â Wileken yn yr Hellfire Club ddrwg-enwog. Perfformiwyd The Beggar's Opera gan John Gay yn Covent Garden yn fuan wedyn, fe ymglymwyd Sandwich i gymeriad Jemmy Twitcher, bradwr Macheath yn y ddrama, fyth wedyn oherwydd ymddygiad Sandwich.

Yn The State Tinkers (1780), fe wnaeth James Gillray gwawdlun o Sandwich (chwith) a'i gynghreiriaid gwleidyddol fel tinceriaid analluog.

Daeth yr Arglwydd Sandwich yn Bostfeistr Cyffredin yn 1768, ac yn Ysgrifennydd Gwladol yn 1770, ac eto yn Arglwydd Cyntaf y Forlys o dan weinyddiaeth Arglwydd North o 1771 hyd Mawrth 1782. Er iddo ddal sawl swydd pwysig, roedd Sandwich yn analluog ac yn llwgr.

Dywed y tanseilwyd yr ymdrechion morol yn y Rhyfel Cylchdroadol Americanaidd gan anallu Sandwich yn y Forlys.[2]

Priododd Sandwich Dorothy Fane, merch Isiarll 1af Fane, a chawsant fab, John, Isiarll Hinchingbrooke (1743–1814), a olynodd ei dad fel y 5ed Iarll. Trasiedi personol cyntaf Sandwich oedd dirywiad yn iechyd ei wraig, yn y diwedd, aeth hi'n wallgof. Fe gafodd Sandwich 16 mlynedd o hapusrwydd yn ddiweddarach gyda'r cantores opera Martha Ray, a chawsant tua naw o blant, roedd Basil Montagu (1770–1851), llenor, arbenigwr cyfreithiol a dyngarwr, yn un ohonynt.[3] Bu trasiedi arall yn Ebrill 1779 pan llofruddiwyd Ray yng nghyntedd y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden gan gwynwr cenfigennus, James Hackman, Rheithor Wiveton. Ni ddaeth Sandwich fyth dros ei alar.

Y Frechdan[golygu | golygu cod]

Mae'n bosib y gymerwyd y gair Saesneg am frechdan, sandwich, ar ôl Arglwydd Sandwich, ond ni ddyfeisiwyd y frechdan ganddo.[4] Mae amgylchiadau dyfeisio'r frechdan yn dal i gael eu dadlau hyd heddiw. Fe argraffwyd achlust yn llawlyfr teithio Tour to London gan Pierre Jean Grosley, gan ffurfio'r chwedl boblogaidd mai bara a chig a gynhaliodd yr Arglwydd Sandwich wrth y bwrdd gamblo[5]. Ond mae bywgraffwr Sandwich, N.A.M. Rodger, yn cynnig y syniad y bu'n mwy tebygol iddo fwyta ei frechdan cyntaf wrth ei ddesg oherwydd ei ymrwymiadau i'r forlu, gwleidyddiaeth a'r celfyddydau.

Mae'n bosib mai brawd yng nghyfraith Sandwich, Jerome de Salis a anwyd yn Gweriniaeth Grisons, a ddygodd ef am frechdanau.

Cronoloeg[golygu | golygu cod]

  • 1718 Ganwyd ar 3 Tachwedd 1718
  • 1729 olynu ei daid, Edward y 3ydd Iarll, i'r iarllaeth
  • 1729 Addysgwyd yn Eton a Coleg y Drindod, Caergrawnt
  • 1740/41 (hen galendr/calendr newydd), 14 Mawrth, priodi yr Anrhydeddus Dorothy Fane yn Sant James, San Steffan
  • 1746 Cael ei anfon fel plenipotensiwr i'r gyngres yn Breda, ac yn cario 'mlaen i gymryd rhan yn y trafodaethau hyd i Gytundeb Aix-la-Chapelle cael ei arwyddo ym 1748
  • 1748 Dod yn Arglwydd Cyntaf y Forlys
  • 1763 Dod yn un o'r prif Ysgrifenyddion Gwladol
  • 1768 Dod yn Postfeistr Cyffredin
  • 1770 Dod yn Ysgrifennydd Gwladol
  • 1771–1782 Dod yn Arglwydd Cyntaf y Forlys unwaith eto
  • 1779 Cafodd Martha Ray ei llofruddion gan James Hackman
  • 1782 Ymddeolodd ym mis Mawrth
  • 1792 Bu farw ar 30 Ebrill

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. William Weber. "4th Earl of Sandwich", Grove Music Online, gol. L. Macy, grovemusic.com (angen cofrestru).
  2. "National Register of Historic Places Application for HMS Culloden". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2008-11-08.
  3. Covent Garden : Part 2 of 3, Old and New London: Volume 3 (1878), tud. 255-269. "Miss Ray had borne to Lord Sandwich no less than nine children, five of whom were then living. One of these afterwards attained distinction, Mr. Basil Montague, Q.C., eminent both as a lawyer and as a man of letters, who died in 1851.."
  4. Sandwiches, History of Sandwiches
  5. Hexmasters Faktoider: Sandwich

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
The Duke of Bedford
Arglwydd Cyntaf y Forlys
1748–1751
Olynydd:
Arglwydd Anson
Rhagflaenydd:
George Grenville
Arglwydd Cyntaf y Forlys
1763
Olynydd:
Iarll Egmont
Rhagflaenydd:
Iarll Halifax
Ysgrifennydd Gogleddol
1763–1765
Olynydd:
Dug Grafton
Rhagflaenydd:
Iarll Rochford
Ysgrifennydd Gogleddol
1770–1771
Olynydd:
Iarll Halifax
Rhagflaenydd:
Sir Edward Hawke
Arglwydd Cyntaf y Forlys
1771–1782
Olynydd:
The Viscount Keppel
Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
Edward Montagu
Iarll Sandwich
1729–1792
Olynydd:
John Montagu