Brechdan

Oddi ar Wicipedia
Brechdan
Enghraifft o'r canlynoltype of food or dish Edit this on Wikidata
Mathfinger food, bánh Edit this on Wikidata
Deunyddbara Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbara Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae brechdan yn fwyd y gellir ei fwyta heb orfod aros am bryd mwy ffurfiol. Gall yr enw gyfeirio at naill ai tafell o fara neu nifer o dafelli gyda bwyd mwy blasus rhyngddynt. Gellir sôn am frechdan i olygu sleisen/tafell o fara menyn blaen. Os taenir rhywbeth ar frechdan blaen, cyfeirir at frechdan jam, brechdan fêl, brechdan Marmite ac ati. Gellir defnyddio tafelli o dorth fara brown neu wyn.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Er i'r Saeson honni i'r Iarll Sandwich ddyfeisio'r frechdan, mae iddo hanes llawer hŷn, yn sicr yn y Gymraeg.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru daw'r gair "brechdan" o'r gair Wyddeleg, brechtán yn golygu menyn neu saim ayyb.

Daw'r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf i'r gair o tua 1400;

kymer vara arall, a chud bob wyneb y’r bara ac emenyn, ac ysgriuenna y wers honn ym pob wyneb y’r vrechdan honno a ro y’r ki".[1]

Defnydd o'r Brechdan[golygu | golygu cod]

Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael menyn neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda mayonnaise, eog, caws gyda (neu heb) siytni/catwad, salad plaen, corgimychiaid, neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis cyw iar coroni, cyw tikka a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, menyn cnau mwnci neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn frechdan glwb neu frechdan ddwbl.

Wedi gwneud y frechdan, arferir ei thorri ar ei hanner o gornel i gornel unwaith neu ddwy, ac ystyrir ei fod yn fwy crand torri'r crystiau i ffwrdd.

Yn gynyddol mae pobl yn defnyddio torthau gyda hadau ac ati ynddynt neu fathau mwy ecsotig o fara, baguette neu bara pita. Mae'n arferol erbyn hyn creu brechdanau wedi'u tostio gyda rhywbeth fel caws neu facwn y tu mewn iddynt.

Mae brechdan yn ffurfio rhan gyntaf hanfodol y te pnawn sydd yn ffasiynol erbyn hyn, ynghyd â sgons a jam, cacennau bach a phaned o de.

Y frechdanau cyntaf oedd tafelli o gig eidion wedi'i halltu rhwng dwy dafell o dôst. Dywedir mai 4ydd Iarll Sandwich a grëodd y frechdan gyntaf er mwyn cario ymlaen gyda'i ddyletswyddau milwrol wrth fwyta, a dyna a roddodd yr enw Saesneg i'r saig - er mai rhai yn honni mai bwyta rhywbeth nad oedd yn ei orfodi i adael bwrdd gamblo oedd ei arfer - a phobl eraill wedyn yn ordro "run peth ag y mae Iarll Sandwich yn ei fwyta"!

Mae'r iaith Ffrangeg wedi mabwysiadu'r gair i ddisgrifio darn o ffon fara Ffrengig wedi ei sleisio trwy ei chanol, gyda menyn a naill ai ham neu gaws rhwng y ddau hanner. Gelwir hwn un sandwich (gyda'r 'w' yn cael ei ynganu fel y 'f' Cymraeg). Dyna, ynghyd â croque Monsieur yw'r bwydydd sydd fel arfer ar gael mewn bariau cyffredin yn Ffrainc.

Yng Nghymru, cedwir y gair sandwich, a ynghenir fel sangwidj i ddisgrifio cacel felen neu gacen sbwng siocled gyda jam neu hufen yn ei chanol.

Gellir hefyd defnyddio'r gair brechdan yn y dywediad teimlo fel bechdan, sef teimlo'n wan a di-egni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  brechdan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.