John Gwyn Jeffreys
| John Gwyn Jeffreys | |
|---|---|
| Ganwyd | 18 Ionawr 1809 Abertawe |
| Bu farw | 21 Ionawr 1885 Llundain |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | malacolegydd, bargyfreithiwr, newyddiadurwr |
| Perthnasau | Henry Moseley |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
| llofnod | |
Yn enedigol o Abertawe roedd John Gwyn Jeffreys (18 Ionawr 1809 – 24 Ionawr 1885) yn naturiaethwr ac fe'i cydnabyddwyd yn rhyngwladol fel arloeswr glanhau dwfn y môr (Deep Sea Dredging). Ei arbenigedd oedd malacoleg a chregynneg, sef bioleg molwsgiaid a chregyn.
Yn Llundain cafodd ei dderbyn i'r bar, fel bargyfreithiwr. Ond trodd tuag at fioleg gan wneud llawer o waith ger Ynysoedd Shetland ac arfordir yr Alban. Bu farw yn Llundain yn 1885.
Mae ei gasgliad gwerthfawr o gregyn wedi eu prynu bellach gan William Healey Dall (1845-1927) ar gyfer y 'National Museum of Natural History', Llundain. Sgwennodd nifer o lyfrau gan gynnwys: British Conchology, or an account of the Mollusca which now inhabit the British Isles and the surrounding seas (cyfres o 5 llyfr, 1862–1865).
Ei ŵyr ydy'r ffisegwr enwog Henry Gwyn Jeffreys Moseley.