John Gibson (pensaer)

Oddi ar Wicipedia
John Gibson
Ganwyd2 Mehefin 1817 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur Frenhinol Edit this on Wikidata

Pensaer Seisnig oedd John Gibson (2 Mehefin 181723 Rhagfyr 1892), a aned yn Swydd Warwick, Lloegr.

Roedd Gibson yn gymorthwywr i Syr Charles Barry a gweithiodd gyda fo ar gynllunio San Steffan.[1] Cynlluniodd Gibson sawl banc, yn cynnwys adeilad y National Bank of Scotland yn Glasgow yn 1864 a'r National Provincial Bank yn Bishopsgate, Llundain, yn 1865 a adwaenir hefyd fel 'Neuadd Gibson' (Gibson Hall).

Gweithiodd Gibson ar gynlluniau sawl eglwys, hen a newydd, yng ngogledd Cymru. Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r Eglwys Farmor, ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, sy'n nodwedd amlwg yn nhirwedd rhan isaf Dyffryn Clwyd.

Yn 1890, rhoddwyd y Fedal Aur Frenhinol (Royal Gold Medal) iddo am ei wasanaeth i bensaernïaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]