John Davies (Brychan)
Gwedd
John Davies | |
---|---|
Ffugenw | Brychan |
Ganwyd | c. 1784 Llanwrthwl |
Bu farw | 20 Mehefin 1864 Unknown |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyhoeddwr, llyfrwerthwr, gwerthwyr deunydd ysgrifennu |
Bardd o dde-ddwyrain Cymru oedd John Davies (1784? - 20 Mehefin 1864), a gyhoeddai wrth yr enw Brychan.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o blwyf Llanwrthwl yn Sir Frycheiniog (de Powys) ydoedd. Yn ddyn ifanc, symudodd oddi yno i weithio fel glöwr ym mhyllau Tredegar. Yno daeth yn llyfrwerthwr a chyhoeddwr a daeth yn ffigwr adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol Gwent a Morgannwg. Roedd yn un o'r rhai a dderbyniwyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1818, flwyddyn cyn i'r sefydliad ffug hynafol, a sefydlwyd gan Iolo Morganwg yn 1792, gael ei gysylltu â'r Eisteddfod.
Roedd Brychan yn adnabyddus yn bennaf fel ffigwr cyhoeddus ac fel ffigwr eisteddfodol. Golygodd sawl blodeugerdd Gymraeg boblogaidd, gan gynnwys Llais Awen Gwent a Morgannwg (1824).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Golygydd:
- Llais Awen Gwent a Morgannwg (1824)
- Y Gog (1825)
- Y Llinos (1827)
- Y Fwyalchen (1835)