Joe Wilson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joe Wilson
Ganwyd 6 Gorffennaf 1937 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Athro Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Anthony Joseph (Joe) Wilson (ganwyd 6 Gorffennaf 1937)[1] yn Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd Cymru yn Senedd Ewrop o 1989 i 1999 [2]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Joe Wilson ym 1937 yn fab i Joseph Samuel Wilson ac Eleanor Annie (née Jones).

Cafodd ei addysg yn Ysgol Birkenhead, Coleg Loughborough a Phrifysgol Cymru lle graddiodd yn BEd gydag anrhydedd.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1955 a 1957 cwblhaodd Gwasanaeth Milwrol Cenedlaethol yn y Royal Army Pay Corps, adran o'r lluoedd a oedd yn gyfrifol am weinyddiaeth ariannol y fyddin. Bu wedyn yn gweithio fel athro yn Guernsey rhwng 1960 a 1966 yna yn Swydd Caint o 1966 i 1969. Cafodd ei benodi yn ddarlithydd mewn ymarfer corff yng Ngholeg Technoleg Wrecsam (NEWI yn diweddarach) ym 1969 lle fu'n gweithio hyd ei ethol i Senedd Ewrop ym 1989.

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn aelod Llafur o Senedd Ewrop dros etholaeth Gogledd Cymru o 1989 i 1999. Safodd fel ymgeisydd yn etholaeth Cymru gyfan ym 1999 ond heb lwyddo i gael ei ethol.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n briod dwywaith yn gyntaf ym 1959 a June Mary Sockett daeth y briodas i ben drwy ysgariad ym 1987 bu un mab a dwy ferch o'r briodas honno, priododd am yr ail waith ym 1998 a Sue Bentley bu hi farw yn 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Political Memory adalwyd 05 Rhagfyr 2014
  2. Gwefan http://www.europarl.europa.eu/; adalwyd 05 Rhagfyr 2014
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
Beata Brookes
Aelod Senedd Ewrop dros Gogledd Cymru
19891999
Olynydd:
diddymu'r sedd