Jennifer Egan

Oddi ar Wicipedia
Jennifer Egan
Ganwyd7 Medi 1962 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Swyddarlywydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amA Visit from the Goon Squad Edit this on Wikidata
PriodDavid Hershkovits Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau, Gwobr Pulitzer am Ffuglen Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://jenniferegan.com Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Jennifer Egan (ganwyd 7 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a nofelydd.

Fe'i ganed yn Chicago ar 7 Medi 1962 ac yn 2019 roedd yn byw yn Clinton Hill, Brooklyn gyda'i gŵr a'i dau fab.[1] Cafodd ei magu yn San Francisco. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Pennsylvania (lle astudiodd llenyddiaeth Saesneg) a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt. Tra oedd yn fyfyriwr israddedig, ei phartner oedd Steve Jobs, a osododd gyfrifiadur Macintosh yn ei hystafell wely.[2][3][4][5]

Ymhlith y gwaith pwysicaf a mwyaf nodedig a ysgrifennodd mae'r nofel: A Visit from the Goon Squad a enillodd Wobr Pulitzer 2011 am Ffuglen a Gwobr Cylch Beirniaid y Llyfr Cenedlaethol am ffuglen. Ar 28 Chwefror 2018 etholwyd hi'n Llywydd Canolfan PEN America. [6][7][8]

Y llenor[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd nofel gyntaf Egan, The Invisible Circus, ym 1995 a'i haddasu'n ffilm o'r un enw a ryddhawyd yn 2001.[9]

Yn debyg i Te yn y Grug gan Kate Roberts, a ddisgrifiwyd fe' "stori fer hir", gwrthododd Egan ddiffinio ei nofel A Visit from the Goon Squad fel 'stori fer' na 'nofel', gan ddweud nad oes angen diffiniadau pendant i rai pethau, a "I wanted to avoid centrality. I wanted polyphony. I wanted a lateral feeling, not a forward feeling. My ground rules were: every piece has to be very different, from a different point of view. I actually tried to break that rule later; if you make a rule then you also should break it!" Mae'r llyfr yn cynnwys plygu'r genre, a cheir ynddi bennod cyfan wedi'i fformatio'n fel cyflwyniad PowerPoint Microsoft. Mynegodd hefyd: "I don't experience time as linear. I experience it in layers that seem to coexist ... One thing that facilitates that kind of time travel is music, which is why I think music ended up being such an important part of the book. Also, I was reading Proust. He tries, very successfully in some ways, to capture the sense of time passing, the quality of consciousness, and the ways to get around linearity, which is the weird scourge of writing prose."[10]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

Ffuglen fer[golygu | golygu cod]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1996), Cymrodoriaeth Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau, Gwobr Pulitzer am Ffuglen (2011)[11] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cooke, Rachel (September 24, 2017). "Jennifer Egan: 'I was never a hot, young writer. But then I had a quantum leap'". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2018.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb125164691. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb125164691. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Jennifer Egan". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  6. Swydd: https://www.apnews.com/3406f3277a1d4bffa5f51fad933dee0c.
  7. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/jennifer-egan/. dyddiad cyrchiad: 25 Hydref 2021.
  8. "Current Board of Trustees (2018-2019)". PEN AMERICA. 2016-09-20. Cyrchwyd 28 Mawrth 2018.
  9. "Amazon.com: Jennifer Egan: Books, Biography, Blog, Audiobooks, Kindle". www.amazon.com. Cyrchwyd 25 Ebrill 2018.
  10. Julavits, Heidi. "Jennifer Egan" Archifwyd 2012-10-16 yn y Peiriant Wayback., BOMB Magazine, Haf 2010. Adalwyd 20 Gorffennaf 2011.
  11. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/jennifer-egan/. dyddiad cyrchiad: 25 Hydref 2021.