James Llewellyn Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
James Llewellyn Davies
VCJamesLlewellynDaviesGrave.jpg
Geni (1886-03-16)16 Mawrth 1886
Cwm Ogwr, Morgannwg, Cymru
Bu farw 31 Gorffennaf 1917(1917-07-31) (31 oed)[1]
Pilckem, Fflandrys, Gwlad Belg
Claddwyd Mynwent Canada Farm, Elverdinghe
Teyrngarwch Baner Y Deyrnas Unedig Prydain Fawr
Gwasanaeth Flag of the British Army.svg Y Fyddin Brydeinig
Rheng Corporal
Uned Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Brwydrau/rhyfeloedd Rhyfel Byd Cyntaf
Gwobrwyon Croes Fictoria

Derbynydd Cymreig o'r Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig, oedd James Llewellyn Davies VC (16 Mawrth 188631 Gorffennaf 1917).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Davies yng Nglyn Ebwy, Sir Fynwy, y trydydd o naw o blant i John a Martha Davies[1]. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio fel glöwr yng Nglofa Wyndham ac ym 1906 priododd Elizabeth Ann Richards. Pan ymrestrodd Davies ar 12 Hydref 1914 roedd ganddynt dri o blant[1].

Dyfarniad y VC[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:

Am ddewrder o'r mwyaf yn ystod ymosodiad ar linellau'r gelyn, gwthiodd y swyddog di-gomisiwn yma trwy'r saethu er mwyn ymosod ar safle dryll peiriannol ar ben ei hun, wedi i sawl dyn cael ei ladd yn ceisio ei gipio. Trywanodd un o griw'r dryll peiriannol gyda'i fidog a daeth ag aelod arall o'r criw yn ogystal â'r dryll yn ôl. Er ei fod wedi anafu, arweiniodd Cpl. Davies barti bomio i ymosod ar dy lle roedd saethwr cudd yn peri helynt i'w blatŵn. Mae'r swyddog di-gomisiwn gwrol yma bellach wedi marw o'r anafiadau ddioddefodd yn ystod yr ymosodiad.

—London Gazette," No. 30272, 6 Medi 1917[2]

Mae ei Groes Fictoria yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon, Caernarfon, Gwynedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Williams, Alistair. Heart of a Dragon: The VCs of Wales and the Welsh Regiments. Bridge Books. p. 146. ISBN 978144940288 Check |isbn= value: length (help). 
  2. London Gazette: (Supplement) no. 30272. p. 9260. 1917-09-04.