James Caan
James Caan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Mawrth 1940 ![]() Y Bronx ![]() |
Bu farw | 6 Gorffennaf 2022 ![]() Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor cymeriad, karateka, cyfarwyddwr ffilm ![]() |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt ![]() |
Taldra | 1.76 metr ![]() |
Pwysau | 75 cilogram ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Priod | Sheila Ryan ![]() |
Plant | Scott Caan ![]() |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Chwaraeon |
Actor Americanaidd oedd James E. Caan (26 Mawrth 1940 – 6 Gorffennaf 2022).
Yn dilyn rhannau cynnar yn El Dorado (1966), Countdown (1967) a The Rain People (1969), daeth i amlygrwydd am ei ran nodedig fel Sonny Corleone yn The Godfather (1972), ac fe'i enwebwyd am wobrau Actor Cefnogol Gorau ar gyfer Gwobrau'r Academi a Gwobr y Golden Globe. Ailgydiodd yn rhan Sonny Corleone yn The Godfather Part II (1974) gydag ymddangosiad cameo ar y diwedd.
Cafodd Caan rannau sylweddol mewn ffilmiau fel Brian's Song (1971), Cinderella Liberty (1973), The Gambler (1974), Rollerball (1975), A Bridge Too Far (1977), a Comes a Horseman (1978). Bu'n gweithio yn achlysurol mewn ffilm yn y 1980au, gyda rhannau nodedig yn Thief (1981), Gardens of Stone (1987), Misery (1990), Dick Tracy (1990), Bottle Rocket (1996), The Yards (2000), Dogville (2003), ac Elf (2003).
Bu farw Caan yn Los Angeles, yn 82 mlwydd oed.[1][2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Pulver, Andrew (7 Gorffennaf 2022). "The Godfather star James Caan dies aged 82". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ Koseluk, Chris (7 Gorffennaf 2022). "James Caan, Macho Leading Man of Hollywood, Dies at 82". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2022.