Dick Tracy
Y cymeriad Dick Tracy. | |
Enghraifft o'r canlynol | stribed comig |
---|---|
Crëwr | Chester Gould |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Hydref 1931 |
Dechrau/Sefydlu | 4 Hydref 1931 |
Dechreuwyd | 4 Hydref 1931 |
Genre | comic, ffuglen drosedd |
Cymeriadau | Dick Tracy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Stribed comic papur newydd a grewyd gan Chester Gould ym 1931 yw Dick Tracy sy'n darlunio ditectif heddlu caled o'r un enw a'i ymdrechion yn erbyn gangsteriaid, troseddwyr cyfundrefnol, a gwleidyddion a chyfreithwyr llwgr. Lleolir y straeon mewn dinas yng Ngorllewin Canol America sy'n debyg i Chicago, ac mae naws ac arddull y stribed yn debyg iawn i ffuglen drosedd hardboiled yr oes. Cyhoeddwyd y stribed cyntaf ar Ddydd Sul, 4 Hydref 1931, yn y Detroit Mirror.
Yn ôl stori gefndirol y cymeriad, ymunodd Dick Tracy â'r heddlu i ddial am lofruddiaeth Emil Trueheart, tad ei gariad Tess. Gweithiai'n dditectif mewn dillad cyffredin, a'r enw gwreiddiol a bwriedid gan Gould ar gyfer y cymeriad a'r stribed oedd "Plainclothes Tracy", ond penderfynodd Joseph Medill Patterson, perchennog syndicet y Chicago Tribune a'r New York News, ar yr enw Dick Tracy yn lle.[1] Ei wrthwynebwyr enwocaf yw'r "oriel y dihirod" o gangsteriaid, lladron, a dynion drwg eraill gydag wynebau hyll ac enwau lliwgar.
Ymddangosodd y cymeriad mewn llyfrau comics a chyfresi radio ac ar deganau a marsiandïaeth. Portreadwyd Dick Tracy mewn sawl ffilm a chyfres deledu (1950–53) gan Ralph Byrd. Cynhyrchwyd ffilm gyda Warren Beatty yn y rôl ym 1990.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Dick Tracy (comic strip character). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2024.