The Godfather

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol

Ffilm ddrama drosedd a ryddhawyd yn 1972 sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Mario Puzo yw The Godfather. Cyfarwyddwyd gan Francis Ford Coppola, ac ysgrifennwyd gan Puzo, Coppola, a Robert Towne (nid oedd enw Towne ar y glodrestr). Mae'n serennu Marlon Brando, Al Pacino, James Caan, Robert Duvall a Diane Keaton, gyda Richard S. Castellano, Abe Vigoda a Sterling Hayden mewn rhannau llai. Mae'n croniclo hanes y teulu troseddol Eidalaidd-Americanaidd Corleone dros y cyfnod 1945 i 1955. Al Martino a chwaraeodd ran y canwr Johnny Fontane, cymeriad a ddywedir ei fod yn seiliedig ar Frank Sinatra.[1]

Gwneuthpwyd dau ddilyniant i The Godfather: The Godfather Part II yn 1974, a The Godfather Part III yn 1990.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Bruno, Anthony. Fact and Fiction in The Godfather. crimelibrary. Adalwyd ar 19 Awst 2012.
Crime film clapperboard.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.